Saethu Ynys Môn: Apêl i berchnogion bwâu croes
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu wedi lansio apêl o'r newydd ar ôl i ddyn gael ei saethu â bwa croes yn Ynys Môn ddydd Gwener.
Gofynna Heddlu Gogledd Cymru i unrhyw un sydd yn berchen ar fwa croes, neu yn nabod rhywun sydd ag un yn eu meddiant i gysylltu â nhw.
Mae'r heddlu'n pwysleisio y gallai hyn fod yn rhywun oedd yn ymweld ag Ynys Môn dros y cyfnod dan sylw.
Cafodd Gerald Corrigan, 74, ei saethu y tu allan i'w gartref ar gyrion Caergybi yn oriau mân 19 Ebrill.
Mae Mr Corrigan yn parhau mewn cyflwr difrifol yn Ysbyty Brenhinol Prifysgol Stoke.
Dywedodd y Ditectif Prif Arolygydd Brian Kearny ei fod yn erfyn ar y sawl sy'n gyfrifol i ddod yn ei flaen, a'u bod nhw'n benderfynol o ddod o hyd i'r unigolyn cyn gynted â phosib.
Yn ôl yr heddlu, roedd Mr Corrigan yn ceisio trwsio lloeren deledu pan gafodd ei saethu tu allan i'w gartref ger y gyffordd rhwng Lôn Porthdafarch a Ffordd Plas.
Ar ôl ymchwilio'r anafiadau fe ddaeth staff meddygol i'r casgliad bod yr anafiadau yn gyson gyda rhai o ymosodiad â bwa croes.
Cafodd yr anafiadau eu disgrifio fel rhai "ofnadwy" gan yr heddlu.
Ychwanegodd Mr Kearny: "Rydw i'n gofyn i unrhyw aelod o'r cyhoedd sydd yn nabod unrhyw un sy'n berchen ar fwa croes, ac oedd yn Ynys Môn ar 18 ac 19 Ebrill i gysylltu â ni. Mae hyn yn cynnwys pobl oedd yn ymweld â'r ynys."
Mae'r llu hefyd wedi gofyn i unrhyw fusnes sydd yn gwerthu bwâu croes i gysylltu â nhw drwy ffonio 101.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd21 Ebrill 2019