Nwyon wedi ffrwydro gan ladd pedwar mewn purfa olew
- Cyhoeddwyd

Bu farw Julie Jones, Dennis Riley, Robert Broome ac Andrew Jenkins yn y digwyddiad yn 2011
Clywodd llys bod pedwar gweithiwr mewn purfa olew wedi marw ar ôl i nwyon ffrwydro mewn cynhwysydd.
Bu farw Julie Jones, 54, Andrew Jenkins, 33, Dennis Riley, 52, a Robert Broome, 48, yn dilyn y ffrwydrad ym mhurfa Chevron, Penfro ym Mehefin 2011.
Cafodd pumed gweithiwr, Andrew Phillips, anafiadau difrifol.
Fe wnaeth Valero Energy UK a B&A Contracts bledio'n euog i gyhuddiadau'n ymwneud â'r Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle.
Mae'r cwmnïau'n cael eu dedfrydu yn Llys y Goron Abertawe.
'Methiannau systemig'
Clywodd y gwrandawiad bod gweithwyr yn ceisio pwmpio gwaddod o danc oedd yn cynnwys cymysgedd o amin a disel, pan daniodd y nwyon ffrwydrol.
Dywedodd Andrew Langdon QC, ar ran yr erlyniad, bod y pum gweithiwr wedi bod yn agos at y tanc, a'u bod yn defnyddio pibell fel seiffon.
Clywodd y llys bod Mr Phillips yn sefyll ychydig yn bellach yn ôl o'r tanc, a'i fod yn cofio cael ei orchuddio gan fflamau.
Dywedodd Mr Langdon bod arbenigwyr wedi awgrymu y gallai'r nwyon peryglus fod wedi eu tanio gan drydan statig o bibell yn cael ei rhoi yn y tanc gan y gweithwyr, neu gan aer yn cymysgu gyda'r nwyon sy'n "gallu tanio pan yn cymysgu gydag aer".
Cwmni Chevron oedd berchen y burfa adeg y digwyddiad, ond mae Valero wedi eu henwi yn yr achos gan eu bod wedi prynu'r safle wedyn.
Clywodd y llys bod Chevron wedi dynodi ardaloedd o fewn y tanc fel rhai oedd ddim yn beryglus, a hynny drwy gamgymeriad.
Dywedodd Mr Langdon: "Doedd neb yn meddwl am nwyon fflamadwy."
Ychwanegodd bod "llithriad difrifol mewn perfformiad a phrosesau oedd yn siŵr o gael effaith ar ddiogelwch".
Clywodd y gwrandawiad hefyd bod ymchwiliad y Gweithgor Iechyd a Diogelwch wedi darganfod "methiannau systemig" ar y safle, a bod ymchwilwyr wedi "rhoi darlun o safle oedd yn y bon wedi troi'n anniogel dros amser".
Mae'r gwrandawiad yn parhau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf 2018