Cwmnïau yn pleidio'n euog wedi ffrwydrad yn Sir Benfro

  • Cyhoeddwyd
Safle Purfa Olew ChevronFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd y ffrwydrad yn ystod gwaith cynnal a chadw arferol ar y safle

Mae dau gwmni wedi pledio'n euog i gyhuddiadau yn ymwneud â digwyddiad mewn purfa olew yn Sir Benfro saith mlynedd yn ôl, lle fu farw pedwar o weithwyr.

Roedd cwmnïau Valero Energy UK Limited a B&A Contracts yn wynebu cyhuddiadau yn ymwneud â'r Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle.

Bu farw Julie Jones, 54, Andrew Jenkins, 33, Dennis Riley, 52, a Robert Broome, 48 yn dilyn y ffrwydrad ym mhurfa Chevron, Penfro ym Mehefin 2011.

Roedd y cwmnïau'n wynebu dau gyhuddiad o fethu â sicrhau iechyd a diogelwch unigolion rhag peryglon yn ymwneud â'r gwaith cynnal a chadw oedd yn cael ei wneud.

Roedd tua 20 o berthnasau i'r rhai bu farw yn bresennol yn y llys, ond nid oeddynt yn fodlon cael eu cyfweld.

Dywedodd y barnwr fod natur a difrifoldeb y cyhuddiadau, yn ogystal â chanlyniadau'r troseddau hyn yn golygu y bydd yr achos nawr yn symud i Lys y Goron Abertawe ar 2 Tachwedd cyn dedfrydu.