Cyngor i uno dwy ysgol gynradd Gymraeg ym Maldwyn
- Cyhoeddwyd
Mae Cabinet Cyngor Powys wedi pleidleisio yn unfrydol o blaid argymhelliad i gau Ysgol Llanerfyl ac agor ysgol newydd ar safle presennol Ysgol Dyffryn Banw.
Yn ôl y cyngor, bydd uno'r ysgolion yn cynnig gwell cyfleoedd i blant ardal Dyffryn Banw, drwy fod yn rhan o ysgol fwy.
Yn ôl Rhian Owen, cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Llanerfyl, roedd y broes wedi "achosi rhwygiadau dwfn o fewn y gymuned".
Mae hi hefyd o'r farn y bydd y newidiadau yn niweidiol i'r iaith Gymraeg.
Fe fydd Ysgol Llanerfyl yn cau yn 2020, gyda'r ysgol newydd yn agor ar 1 Fedi 2020 yn Llangadfan.
Fe fydd yr ysgol newydd yn cael ei hagor fel ysgol cyfrwng Cymraeg yr Eglwys yng Nghymru.
Bu Llywodraethwyr a rhieni Llanerfyl yn dadlau bod safle Ysgol Llanerfyl yn cynnig gwell gwerth am arian i'r awdurdod lleol, am fod yr adeilad yn rhatach i'w gynnal.
Dydy penderfyniad Cyngor Powys ddim yn achos dathlu i rieni Ysgol Dyffryn Banw chwaith, yn ôl Richard Tudor, cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Dyffryn Banw.
"Mae ansicrwydd ysgolion wedi bod yn gwmwl drosom ni ers cyfnod rŵan, ers sawl blwyddyn a chanlyniad hynny ydi bod 'na deuluoedd yn symud eu plant i ysgolion y tu allan i'r ardal," meddai.
"De ni'n falch iawn bo 'na benderfyniad wedi cael ei wneud ond wrth gwrs does 'na ddim ymfalchïo o'n safbwynt ni achos mae 'na un safle wedi cael ei ddewis dros y llall.
"Mae'n rhaid i ni edrych ymlaen at ddyfodol disglair rŵan efo un ysgol gan obeithio y bydd pawb yn ei chefnogi hi."
Ers mis Mawrth, mae naw o ddisgyblion wedi symud o ysgol Lanerfyl i Langadfan.
Erbyn hyn mae 32 o ddisgyblion yn derbyn addysg yn Ysgol Dyffryn Banw, gyda 20 yn Ysgol Llanerfyl.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Mai 2018
- Cyhoeddwyd4 Medi 2017
- Cyhoeddwyd12 Mawrth 2019