Marwolaethau purfa: Ymddiheuriad i deuluoedd gweithwyr

  • Cyhoeddwyd
Julie Jones, 54, Dennis Riley, 52, Robert Broome, 48, ac Andrew Jenkins, 33Ffynhonnell y llun, Family handout
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Julie Jones, Dennis Riley, Robert Broome ac Andrew Jenkins yn y digwyddiad yn 2011

Mae cyn berchnogion purfa olew ym Mhenfro wedi ymddiheuro i deuluoedd gweithwyr a gafodd eu lladd wedi ffrwydrad ar y safle yn 2011. 

Bu farw Dennis Riley, 52, Robert Broome, 48, Andrew Jenkins, 33, a Julie Jones, 54, pan ffrwydrodd tanc storio roedden nhw'n ceisio ei wagio ym mhurfa Chevron.

Cafodd weithiwr arall, Andrew Phillips anafiadau wnaeth newid ei fywyd.

Mae perchnogion presennol y burfa, Valero Valero Energy UK a'r cwmni glanhau arbenigol, B&A Contracts yn cael eu dedfrydu yn Llys y Goron Abertawe yr wythnos hon ar ôl pledio'n euog i gyhuddiadau'n ymwneud â'r Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle.

'Ymddiheuriad diffuant'

Dywedodd Mark Ellison QC ar ran Valero bod Chevron "yn fwriadol wedi parhau â chysylltiad agos" â hynt yr achos ers y ffrwydrad.

Gan annerch teuluoedd y dioddefwyr yn y llys, dywedodd ei fod wedi cael cyfarwyddyd i fynegi "gofid dwfn Chevron ac ymddiheuriad diffuant" ynghyd "y golled ofnadwy a'r anaf ddifrifol" a ddigwyddodd ar y diwrnod dan sylw.

Mewn datganiad gan reolwyr gyfarwyddwr y burfa ar y pryd, Greg Hanggi, roedd "methiannau yr oedd y cwmni wedi eu cydnabod wedi siomi'r unigolion hynny i gyd a'u teuluoedd". 

Safle Purfa Olew ChevronFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd y ffrwydrad yn ystod gwaith cynnal a chadw arferol ar y safle

Roedd y cwmni, meddai, wedi bod yn "ymwybodol" bod yna gymysgedd o nwyon o fewn y tanc oedd â'r potensial i fod yn bergylus wrth weithredu newid i'w brosesau yn 1998, ond fe fethodd â chyflwyno mesurau i fynd i'r afael â'r broblem.

Ychwanegodd bod dealltwriaeth rhai aelodau staff ynghylch y peryglon posib yn "wael", ac roedd un neges gyda gorchymyn i ddod â gwaith i stop yno, ddyddiau cyn y ffrwydrad, heb gyrraedd y sawl oedd i fod i'w derbyn.  

Roedd yna fethiant hefyd i weithredu mewn ymateb i brawf oedd yn nodi lefel uchel o nwyon ffrwydrol o fewn y tanc.

"Fe fethodd y rhai oedd yn gyfrifol am y gwaith i asesu neu liniaru'n briodol y risg o awyrgylch fflamadwy," meddai Mr Ellison.

"Roedd dull gwagio cynnwys y tanc ym Mehefin 2011 yn anghyson â chanllawiau'r diwydiant."

Clywodd y llys bod trosiant blynyddol Chevron yn £9.4 biliwn yn 2011.

Mae'r gwrandawiad yn parhau ac mae disgwyl i'r ddau gwmni gael dirwy ddydd Gwener.