Etholiadau Ewrop: Lansio ymgyrch Plaid Cymru

  • Cyhoeddwyd
adam price

Mae Plaid Cymru yn galw ar gefnogwyr ail refferendwm ar yr Undeb Ewropeaidd i bleidleisio dros y blaid yn yr etholiad ar gyfer Senedd Ewrop ddiwedd mis Mai.

Wrth lansio ymgyrch y Blaid, dywedodd yr arweinydd Adam Price fod ei blaid yn targedu pleidleiswyr Llafur Cymru yn "arbennig".

Dywedodd Mr Price mai ei blaid ef yw'r unig blaid yng Nghymru "gyda siawns o ennill seddi" sy'n "ddigamsyniol" yn eu cefnogaeth o refferendwm arall.

Mae Plaid Cymru wedi dweud y dylai Cymru gynnal refferendwm ar annibyniaeth os yw Brexit yn digwydd heb bleidlais arall ar ein haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd.

Roedd y cyhoeddiad gan Adam Price ddydd Gwener diwethaf ynghylch pleidlais ar annibyniaeth wedi mynd ymhellach na'i araith yng nghynhadledd y blaid ym mis Mawrth.

'Gwleidyddiaeth newydd'

Yn lansiad ymgyrch Plaid Cymru ar gyfer etholiad Senedd Ewrop yng Nghaerdydd ddydd Iau, dywedodd Mr Price: "Os ydym am wneud i Gymru fod yn bwysig yn Ewrop a'r byd, pleidlais dros Blaid Cymru yw ein siawns o wneud hynny i ddigwydd.

"Os ydym am i'r Gymru newydd y bydd gwleidyddiaeth newydd yn ei chyflwyno, rhaid i ni bleidleisio drosti.

"Rydyn ni'n gwybod bod Cymru yn bwysig. Mae Cymru yn bwysig i filiynau o'n pobl, yn eu bywydau bob dydd. Ond yng nghoridorau pŵer yn San Steffan, nid yw Cymru o bwys mawr.

"Mae'r etholiad hwn yn golygu mwy na rhoi Cymru - ein bywydau, ein problemau a'n breuddwydion - wrth galon Ewrop, ond ynghylch dod â Chymru i mewn o'r ymylon, allan o'r oerfel," ychwanegodd.

Mae Plaid Cymru eisoes wedi dweud y gallai cytundeb trawsbleidiol rhwng pleidiau gwrth-Brexit "wedi bod yn gyfle i gynnig y dewis gorau posibl i'r pleidleiswyr yn y blwch pleidleisio" ac wedi rhoi'r bai ar y Gwyrddion yng Nghymru dros y ffaith nad yw'r ddwy blaid yn cydweithio yn etholiadau Ewrop.

Anelu at gefnogwyr Llafur Cymru

Yn yr etholiad diwethaf ar gyfer Senedd Ewrop yn 2014, rhannwyd y pedair sedd yng Nghymru rhwng Plaid, Llafur, UKIP a'r Ceidwadwyr.

Dywedodd Mr Price: "Ni yw'r unig blaid yng Nghymru sydd â chyfle i ennill seddau yn Senedd Ewrop sy'n cefnogi 'Pleidlais y Bobl' yn ddiamwys.

"Am y rheswm hwnnw rydym yn apelio am gefnogaeth oddi wrth pleidiau eraill. Rydym yn dweud wrth bobl ar draws y sbectrwm gwleidyddol: ymunwch â ni.

"Mae ein hapêl wedi ei hanelu'n arbennig at gefnogwyr Llafur [Cymru] sydd, ers blynyddoedd, wedi'u siomi gan arweinyddiaeth eu plaid," ychwanegodd.

Mae wyth plaid yn ymladd dros bedair sedd yng Nghymru yn yr etholiadau Ewropeaidd ar ddiwedd mis Mai - Llafur Cymru, y Ceidwadwyr Cymreig, Plaid Cymru, Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, UKIP, y Blaid Werdd, Change UK a'r Blaid Brexit.