Galwad i warchod gofodau celf fforddiadwy Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae criw o artistiaid yng Nghaerdydd wedi cychwyn ymgyrch i fynd i'r afael â'r diffyg lleoliadau fforddiadwy sydd ar gael ynghanol y ddinas.
Y gred ymysg nifer o'r ymgyrchwyr yw bod Cyngor Caerdydd yn methu pan mae hi'n dod at warchod llefydd gweithio canolog i artistiaid yn y ddinas.
Mae dyfodol dau hwb creadigol yn y fantol oherwydd ceisiadau cynllunio.
Cychwynnodd Julia Harris - cyd-berchennog The Sustainable Studio - yr ymgyrch ar ôl cael gwybod bod prydles eu hadeilad yn dod i ben o fewn y misoedd nesaf gan fod y tir wedi ei werthu i gynllunwyr datblygu tai.
Dywedodd Cyngor Caerdydd bod cynlluniau i adeiladu tai ar y safle yn hanfodol er mwyn sicrhau bod Caerdydd yn ddinas fforddiadwy.
Mae'r Sustainable Studio yn ofod gwaith sy'n cael ei rannu gan dros 50 o artistiaid yn ardal Riverside, Caerdydd, ond mae'r cynlluniau yn taflu cysgod ar ddyfodol y safle.
A gyda diffyg safleoedd fforddiadwy, mae Julia yn bryderus bod artistiaid Caerdydd yn cael eu gwthio allan o ganol y ddinas.
"Mae 'na'r holl adeiladau shiny 'ma, ond does 'na neb yn meddwl am ddiwylliant y ddinas," meddai.
"Ni methu cael ein gwthio i gyrion y ddinas. 'Dyn ni angen bod yn ein cymunedau, 'dyn ni angen bod ynghanol y ddinas er mwyn i ni allu cynnal y berthynas sy' gynno' ni gyda'r prifysgolion a'r ysgolion 'dyn ni'n gweithio gyda nhw."
Yr un ffawd sy'n wynebu The Printhaus, stiwdio argraffu yn Nhreganna sydd yn weithle i dros 70 o artistiaid.
Mae prydles y perchnogion yn dod i ben ar ddiwedd y flwyddyn ac mae cynllunwyr wedi datgan bod ganddyn nhw ddiddordeb i adeiladu tai ar y safle.
Mae hyn yn peri gofid i artistiaid sydd wedi sefydlu eu hunain yno, fel y dylunydd a'r cyfarwyddwr celf, Gwyn Eiddior.
Mae'n galw ar y cynulliad, y cyngor sir, a Chyngor y Celfyddydau i roi "rhywfaint o bwysau ar y broses cynllunio a chyfreithiol fel bod modd i'r gofodau creadigol yma fyw ochr yn ochr â thai newydd".
"Mae'r cyngor yn trio gwerthu Caerdydd fel dinas gelf, dinas diwylliant, dinas gerddorol - ond ma'n teimlo 'chydig bach imi fod nhw'n addewidion gwag achos dydyn nhw ddim cweit yn gallu rhoi'r cymorth ymarferol i ofodau diwylliannol annibynnol fel hyn gael ffynnu yn ein dinas ni," meddai.
"'Sa ni'n colli nhw, 'sa Caerdydd yn troi fewn i ddinas ddiflas."
'Dinas fforddiadwy i bawb'
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd bod hi'n fwriad ganddyn nhw i "weithio gyda Sustainable Studio a lleoliadau eraill sydd angen cymorth i sicrhau llety newydd".
"Ond mae'r datblygiad ar Ffordd Dumballs, sydd am gynnwys 450 o dai cyngor, yn allweddol i'n cynlluniau i adeiladu mwy o dai yn y ddinas," meddai.
"Mae hyn yn hanfodol er mwyn sicrhau bod Caerdydd yn ddinas fforddiadwy i bawb sy'n byw ac yn gweithio yma."
Ychwanegodd y byddai'r cyngor yn gallu cefnogi artistiaid yn well pe bai ganddyn nhw fwy o reolaeth dros lefelau ardrethi busnes.
Y llywodraeth sy'n gyfrifol am eu gosod ar hyn o bryd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mai 2019
- Cyhoeddwyd11 Ebrill 2019