Marwolaeth bwa croes: Ymchwiliad llofruddiaeth mwyaf ers 2001

  • Cyhoeddwyd
Gerald CorriganFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd teulu Gerald Corrigan wedi'r ymosodiad eu bod nhw'n ceisio dod i delerau â'r digwyddiad "dychrynllyd"

Mae plismyn sy'n chwilio am bwy bynnag oedd yn gyfrifol am ladd cyn-ddarlithydd gyda bwa croes yn dweud mai dyma'r ymchwiliad llofruddiaeth mwyaf ar Ynys Môn ers bron ddau ddegawd.

Bu farw Gerald Corrigan ddydd Sadwrn - tair wythnos wedi iddo gael ei saethu y tu allan i'w gartref ar 19 Ebrill.

Bellach mae mwy na 40 o swyddogion yn gweithio ar yr ymchwiliad.

Mae ditectifs hefyd wedi apelio unwaith eto ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw.

Y gred yw bod Mr Corrigan yn trwsio teclyn lloeren teledu ar ei gartref tua dwy filltir o Gaergybi pan gafodd ei saethu drwy ei fraich a'i frest.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Ditectif Prif Arolygydd Brian Kearney yn credu fod rhywun ar yr ynys yn gwybod beth ddigwyddodd

Dywedodd y Ditectif Prif Arolygydd Brian Kearney, sy'n arwain yr ymchwiliad: "Rwy'n credu mai gan y cyhoedd y mae'r allwedd, a byddwn yn apelio am unrhyw wybodaeth, waeth pa mor ddinod y mae'n ymddangos.

"Ry'n ni angen helpu'r gymuned i'n cynghori ni am gefndir yr achos, a beth arweiniodd at bensiynwr 74 oed oedd yn byw mewn llecyn mor ddelfrydol i gael ei ladd yn y fath fodd."

Bu Mr Corrigan yn ddarlithydd mewn ffotograffiaeth a fideo yn Sir Gaerhirfryn cyn ymddeol i'r ynys tua 20 mlynedd yn ôl.

Dywedodd Heddlu'r Gogledd eu bod wedi siarad gydag arbenigwyr bwâu croes - gwneuthurwyr a gwerthwyr - mewn ymdrech i ganfod yr arf a gafodd ei ddefnyddio.

Nid yw'n anghyfreithlon i fod yn berchen ar fwa croes, ond ni chaiff ei ddefnyddio i hela na'i gario yn gyhoeddus.