Plaid Werdd: Etholiad 'yn fwy' nag ailredeg refferendwm
- Cyhoeddwyd
Mae etholiad Senedd Ewrop yn "llawer mwy" nag ailrediad answyddogol o'r refferendwm yn 2016, yn ôl arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru.
Dywedodd Anthony Slaughter fod ei blaid wedi bod ar flaen y gad yn yr ymgyrch dros bleidlais arall ar ein haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd er mwyn gwrthdroi Brexit.
Ychwanegodd ei fod yn "syndod braf" bod pobl yn siarad am newid hinsawdd ac nid Brexit yn unig yn ystod yr ymgyrch hon.
Nid yw'r Gwyrddion erioed wedi ennill sedd Gymreig yn Senedd Ewrop na'r Cynulliad.
Yn 1992, etholwyd Cynog Dafis fel Aelod Seneddol dros Geredigion ar ran Plaid Cymru a'r Gwyrddion ar y cyd.
Ond nid yw'r Gwyrddion erioed wedi ennill sedd Gymreig yn Nhŷ'r Cyffredin ar ben eu hunain.
Wrth gael ei holi am record etholiadol wael y blaid, dywedodd Mr Slaughter: "Rydym yn tyfu yng Nghymru ac rwy'n hyderus y byddwn yn gweld canlyniadau da iawn yng Nghymru yn yr etholiad hwn.
"Ar stepen y drws, rydym yn cael teimlad da iawn ac nid yw pobl yn siarad am Brexit yn unig, sydd wedi bod yn syndod braf, mae llawer o bobl eisiau siarad am newid yn yr hinsawdd a'r argyfwng hinsawdd, sydd yn bwysig iawn i bobl ar hyn o bryd.
"Am gyfnod hir iawn, rydyn ni wedi bod yn blaid gyda pholisïau go iawn a chynlluniau go iawn i fynd i'r afael â'r broblem hon ac mae pobl yn cydnabod hynny."
'Teimlad da' ar stepen y drws
Dywedodd Mr Slaughter fod y Gwyrddion "wedi gweld cynnydd enfawr mewn aelodaeth a diddordeb" ers cofnodi canlyniadau da yn etholiadau cyngor Lloegr ar ddechrau mis Mai.
Ym mis Gorffennaf 2018, fe bleidleisiodd 65% o aelodau'r Blaid Werdd yng Nghymru yn erbyn rhannu o'r blaid yn Lloegr.
Ychwanegodd Mr Slaughter, prif ymgeisydd y blaid yng Nghymru ar gyfer etholiadau Senedd Ewrop, ei bod yn "anochel ac yn ddymunol" y byddai'r blaid yn rhannu yn y dyfodol, "ond nid oedd ein haelodau'n teimlo mai llynedd oedd yr amser cywir i wneud hynny".
Mae'r blaid wedi cael ei beirniadu am gyflwyno rhestr lawn o ymgeiswyr gwrywaidd yng Nghymru ar gyfer yr etholiadau ar 23 Mai - Mr Slaughter, Ian Chandler, Ceri Davies a Duncan Rees.
Dywedodd Mr Slaughter bod hynny'n "anffodus", ac mai "mater o amseru oedd y broblem".
"Oherwydd mae gennym fecanweithiau yn eu lle i gywiro hynny ac nid oedd gennym yr amser i wneud hynny y tro yma," meddai.
"Byddwn yn dadlau bod ein record ar gydraddoldeb rhyw yn dda iawn.
"Yn etholiad diwethaf y Cynulliad roedd pedwar o'n pum ymgeisydd mwyaf blaenllaw yn fenywod.
"Byddwn yn cymryd camau i sicrhau nad yw'n digwydd eto."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Ebrill 2019