Ysbyty Iarlles Caer i dderbyn cleifion o Gymru

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty Countess of Chester
Disgrifiad o’r llun,

Mae tua 20% o gleifion yr ysbyty yn dod o Gymru

Mae penaethiaid iechyd yng Nghaer wedi arwyddo cytundeb gyda Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr fydd yn caniatáu i filoedd o gleifion dderbyn triniaeth dros y ffin unwaith yn rhagor.

Roedd Ysbyty Iarlles Caer wedi rhoi'r gorau dros dro i dderbyn cleifion o ogledd Cymru ym mis Ebrill oherwydd ffrae ynglŷn â chyllido.

Yn gynharach y mis hwn daeth yr anghydfod i ben yn dilyn cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a'r Adran Iechyd yn Lloegr.

Ond bu'n rhaid i gleifion aros cyn cael triniaeth er mwyn i'r ysbyty arwyddo cytundeb penodol gyda Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.

Miloedd yn cael triniaeth

Dywedodd llefarydd ar ran y bwrdd Iechyd: "Rydym yn falch bod cytundeb wedi ei gytuno gydag Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Ysbyty Iarlles Caer, a bod ein cleifion yn nwyrain sir Fflint yn gallu cael mynediad i driniaeth."

Mae tua 20,000 o gleifion o ogledd ddwyrain Cymru yn cael triniaeth yn yr ysbyty bod blwyddyn, tua 20% o holl gleifion yr ysbyty.

Roedd Ysbyty Iarlles Caer wedi parhau i dderbyn achosion brys a mamolaeth o Gymru yn ystod yr anghydfod, ond roedden nhw yn gwrthod unrhyw gleifion eraill oedd yn cael eu cyfeirio gan feddygon teulu.

Dywedodd llefarydd ar ran yr ysbyty: "Fe allwn gadarnhau bod y cytundeb wedi ei arwyddo, ac fe fydd triniaeth ar gyfer cleifion sydd yn cael eu cyfeirio atom o Gymru yn ail-gychwyn ar unwaith."