Casnewydd yn cael eu trechu gan Tranmere yn Wembley
- Cyhoeddwyd
Roedd torcalon i Gasnewydd yn ffeinal gemau ail-gyfle Adran Dau wrth iddyn nhw gael eu trechu gan gôl ym munud olaf amser ychwanegol yn Wembley.
Bu bron i Tranmere fynd ar y blaen ar ôl 25 munud, gyda foli James Norwood yn denu arbediad da gan golwr Casnewydd, Joe Day.
Er nifer o ergydion gan y ddau dîm yn yr hanner cyntaf, doedd dim llawer o gyfleoedd clir, ac roedd hi'n ddi-sgôr ar yr egwyl.
Roedd hi'n ail hanner llawer mwy tynn, ac er y tempo uchel, doedd yr un tîm yn gallu canfod gôl gynta'r gêm.
Gyda phum munud yn weddill o'r 90 roedd cefnogwyr Casnewydd yn galw am gic o'r smotyn yn dilyn tacl ar Jamille Matt, ond doedd y dyfarnwr Ross Joyce ddim yn cytuno.
Funudau'n unig yn ddiweddarach cafodd capten yr Alltudion, Mark O'Brien ei yrru o'r maes wedi iddo dderbyn ail gerdyn melyn am drosedd ar Norwood.
Aeth y gêm i amser ychwanegol, ac ym munudau olaf yr hanner awr ychwanegol llwyddodd Tranmere i ganfod unig gôl y gêm, wrth i gyn-chwaraewr Wrecsam, Connor Jennings benio i'r rhwyd o groesiad Jake Caprice.
Cyn dydd Sadwrn doedd Casnewydd heb gael eu trechu mewn 12 gêm yn olynol - eu rhediad gorau ers 1938.
Tranmere felly fydd yn chwarae yn Adran Un y tymor nesaf, gyda Chasnewydd yn gorfod bodloni ar le yn Adran Dau am dymor arall.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Mai 2019
- Cyhoeddwyd14 Mai 2019
- Cyhoeddwyd12 Mai 2019