Lansio ymgyrch gyllido torfol i brynu Tafarn y Plu

  • Cyhoeddwyd
Tafarn y PluFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y fenter yn derbyn £120,000 o arian cyfatebol os ydyn nhw'n llwyddo i godi £80,000

Mae menter i achub tafarn 200 mlwydd oed yng Ngwynedd wedi lansio ymgyrch gyllido torfol er mwyn casglu'r £8,000 sydd ei angen i brynu'r adeilad.

Aeth Tafarn y Plu yn Llanystumdwy ar werth yn 2015, ac roedd ofnau bryd hynny y byddai'n cau.

Cafodd ymgyrch i ddenu cyfranddalwyr ei lansio gan Fenter y Plu ym mis Medi 2018 er mwyn talu'r £200,000 sydd ei angen.

Maen nhw wedi codi £72,000, ond mae angen dod o hyd i £8,000 arall cyn sicrhau £120,000 o arian cyfatebol gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.

Mae'r dafarn, sy'n boblogaidd gyda phobl leol a thwristiaid, wedi'i lleoli gyferbyn â chartref y cyn-Brif Weinidog, David Lloyd George.

Cafodd Menter y Plu ei sefydlu er mwyn achub y dafarn restredig Gradd II - yr adeilad olaf o'i fath yn y pentref.

Roedden nhw am brynu'r dafarn fel menter gymunedol a gwahodd pawb i brynu cyfranddaliadau am £100 yr un er mwyn ceisio cyrraedd y nod o £80,000.