Cwestiynau am reolaeth ariannol canolfan Tŷ Pawb yn Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Mae adroddiad sy'n beirniadu rheolaeth ariannol canolfan gelfyddydol yn "codi cwestiynau am allu" Cyngor Wrecsam i'w rhedeg, yn ôl cynghorydd.
Datgelodd archwiliad mewnol fod "gwendidau difrifol mewn rheoli ariannol" yn Nhŷ Pawb a agorodd yn 2018 ar gost o £4.5m.
Mae'r ddogfen yn nodi, er hynny, nad oes tystiolaeth bod y diffygion wedi achosi colledion ariannol.
Yn ôl y Cynghorydd Marc Jones, roedd peidio sefydlu corff gwirfoddol i reoli Tŷ Pawb "yn gamgymeriad".
Dywedodd llefarydd ar ran y ganolfan eu bod yn cydnabod casgliad yr adroddiad.
Cafodd yr archwiliad mewnol o reolaeth ariannol Tŷ Pawb ei gynnal ym mis Chwefror a Mawrth eleni, a bydd yn cael ei drafod gan bwyllgor archwilio'r cyngor dydd Iau.
Mae'r adroddiad, dolen allanol yn dweud fod "diffyg ymwybyddiaeth a chydymffurfiad â rheoliadau ariannol a gofynion llywodraethol allweddol" sy'n "dangos gwendidau difrifol mewn rheoli ariannol".
Ychwanega bod "bylchau yn y broses" sy'n "gadael y gwasanaeth yn agored i risgiau", a bod "angen gwella effeithlonrwydd rheolaeth ariannol o ran yr arian sy'n dod i fewn".
'Angen gwella'r marchnata'
Er bod yr archwilwyr yn tanlinellu bod "dim colledion ariannol wedi eu datgelu" yn eu hastudiaeth, maen nhw'n gwneud 13 o argymhellion, gan gynnwys pump â "blaenoriaeth uchel".
Mae'n "codi cwestiynau am allu'r cyngor i redeg y lle," meddai'r Cynghorydd Marc Jones, un o aelodau'r pwyllgor archwilio.
"Y bwriad gwreiddiol oedd creu corff gwirfoddol, annibynnol i'w redeg o, a ddaru'r cyngor benderfynu ar y funud ola' i beidio gwneud hynny, a dwi'n meddwl oedd hwnna'n gamgymeriad.
"'Dan ni angen gweld y gymuned ehangach a'r gymuned gelfyddydol yn cymryd perchnogaeth o'r lle.
"Dwi'n credu bod y marchnata angen ei wella ac mae hwnna'n rhywbeth sydd, gobeithio, yn mynd i ddatblygu dros y misoedd a'r blynyddoedd ond mae rhaid sortio'r math yna o beth allan neu 'dan ni'n mynd i weld cyfnod yn dod - os does dim arian cyhoeddus - lle mae rhywun yn dweud na fedrwn ni fforddio cynnal y lle.
"Ac ar ôl gwario £4.5m, fasa hynna'n drychineb."
Mae hi wedi bod yn flwyddyn gyntaf heriol i'r ganolfan.
Roedd disgwyl iddi wneud colled o £173,000 yn y cyfnod hwnnw , ac roedd 'na ffrae gyhoeddus amlwg rhwng y cyngor a rhai o'r stondinwyr sy'n masnachu ar y safle.
Dywedodd cynrychiolydd ar ran Tŷ Pawb eu bod yn cydnabod casgliadau'r adroddiad a'u bod "yn edrych ymlaen at weithredu ar sail awgrymiadau'r pwyllgor"
Ychwanegodd bod y ganolfan wedi ei chadw dan reolaeth fewnol yr awdurdod "am dair blynedd" oherwydd "cyngor a roddwyd i Fwrdd Gweithredol y Cyngor", a bod bwrdd ymgynghorol Tŷ Pawb "yn cynrychioli'r celfyddydau lleol a'r gymuned ehangach".
Dywedodd hefyd fod y ganolfan wedi "gweithio'n galed i godi ymwybyddiaeth", ond eu bod yn "cymryd camau i sicrhau [eu bod] yn parhau i wella a datblygu".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd12 Medi 2017