Tywys Matondo o awyren yn dilyn ymddygiad 'aflonyddol'

  • Cyhoeddwyd
MatondoFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Matondo wedi ennill dau gap dros Gymru hyd yma

Cafodd yr heddlu eu galw i dywys un o chwaraewyr tîm pêl-droed Cymru oddi ar awyren wedi iddo achosi aflonyddwch yn ystod y daith.

Roedd Rabbi Matondo yn teithio gyda gweddill y garfan o Faro i Fryste ddydd Mawrth wedi iddynt gwblhau cyfnod o ymarfer ym Mhortiwgal.

Dywedodd EasyJet - y cwmni oedd yn gyfrifol am yr hediad - bod cwyn wedi ei wneud am un o'r teithwyr a bod yr heddlu wedi eu galw i drin â'r mater.

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) wedi cadarnhau eu bod nhw'n ymwybodol o'r digwyddiad.

Mae Matondo, sy'n chwarae i glwb Schalke yn yr Almaen, yn rhan o garfan Ryan Giggs ar gyfer gemau rhagbrofol Euro 2020 yn erbyn Croatia a Hwngari fis nesaf.

Dywedodd llefarydd ar ran CBDC: "Mae'r gymdeithas yn ymwybodol o gŵyn gafodd ei wneud yn ystod hediad i Fryste yn ymwneud ag un o aelodau'r garfan ryngwladol.

"Fe ddelwyd â'r mater yn sydyn a ni fydd y gymdeithas yn gwneud unrhyw sylw pellach ar hyn o bryd."

Dywedodd llefarydd ar ran EasyJet: "Er bod achosion fel hyn yn rai prin, rydyn ni'n eu trin o ddifrif ac ni allwn ni dderbyn unrhyw ymddygiad ymosodol neu fygythiol."