£12m o fuddsoddiad yn niwydiant ynni llanw'r gogledd
- Cyhoeddwyd
Mae diwydiant ynni llanw'r gogledd wedi cael hwb sylweddol ar ôl i Lywodraeth Cymru fuddsoddi £12.6m o gyllid yr Undeb Ewropeaidd mewn prosiect arloesol ar Ynys Môn.
Bydd yr arian yn galluogi cwmni Minesto i symud ymlaen â chynllun i ddefnyddio barcutiaid tanddwr er mwyn cynhyrchu ynni o lif y llanw a'r môr.
Dros y blynyddoedd nesaf bydd y cwmni o Sweden yn datblygu a gosod dyfais "dechnoleg ail genhedlaeth" mewn ardal chwe chilomedr oddi ar arfordir Ynys Môn.
Mae'r datblygiad yn rhan o gynllun hirdymor i ehangu ardal Dyfnder Caergybi, dolen allanol i fod yn safle ynni llanw masnachol 80 megawat gyda'r potensial i gyflenwi digon o drydan ar gyfer tua 60,000 o gartrefi.
Dywedodd Minesto, sydd â'i bencadlys Prydeinig yng Nghaergybi, bod profion diweddar o'r dechnoleg barcud tanddwr wedi bod yn llwyddiannus.
'Codi i'r lefel nesaf'
Dywedodd prif weithredwr y cwmni bod y buddsoddiad diweddaraf yn "gyfraniad allweddol i fasnacheiddio'n technoleg", ac mai'r uchelgais yw "gallu cynhyrchu ynni glân ar raddfa fawr yn lleol o ffrydiau llanw Cymru".
Ychwanegodd Dr Martin Edlund: "Drwy wneud hynny, byddwn yn gallu datblygu diwydiant tymor hir yn y gogledd."
Fe fydd y gefnogaeth ariannol ddiweddaraf "yn codi gwaith Minesto yn y gogledd i'r lefel nesaf" sy'n "newyddion da ar gyfer swyddi a'r gadwyn gyflenwi leol", yn ôl Gweinidog yr Economi, Ken Skates.
Dywedodd Gweinidog Brexit Llywodraeth Cymru, Jeremy Miles, sydd hefyd yn gyfrifol am oruchwylio cronfeydd Ewropeaidd yng Nghymru, bod "cyfle gwirioneddol i Gymru fod ar y blaen mewn diwydiant newydd sylweddol".
Ond fe rybuddiodd bod y buddsoddiad "yn dangos pwysigrwydd sicrhau cyllid cyfatebol gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gefnogi swyddi a thwf yng Nghymru ar ôl i ni ymadael â'r Undeb Ewropeaidd".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Ebrill 2017
- Cyhoeddwyd31 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd3 Mai 2019