Tynnu cais i ddiwygio fformat Radio Ceredigion
- Cyhoeddwyd
![Gorsaf Radio](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/A319/production/_100835714_edbdc770-354e-4bbd-ab33-44feba726d1d.jpg)
Bydd Nation Radio yn disodli Radio Ceredigion yn swyddogol o ddydd Sadwrn ymlaen wedi'r tro pedol diweddaraf gan berchnogion yr orsaf.
Roedd yr arolygydd darlledu, Ofcom wedi derbyn cais gan y cwmni i newid fformat y drwydded radio masnachol ar gyfer Ceredigion, a pharhau gyda'r fformat blaenorol oedd â chynnwys a newyddion lleol.
Ond mae'r cwmni bellach wedi tynnu'r cais hwnnw yn ôl, sy'n golygu mai rhaglenni uniaith Saesneg fydd yn cael eu darlledu o 1 Mehefin, yn unol â'u cais gwreiddiol i newid telerau'r drwydded.
Dywedodd Ofcom nad oes gan y corff "bŵer i orfodi amodau o ran fformat ar drwyddedai" y tu hwnt i delerau cais llwyddiannus am drwydded.
Doedd neb arall wedi cystadlu am y drwydded radio masnachol ar gyfer yr ardal pan gafodd ei hail-ddyfarnu i RCL (Radio Ceredigion Ltd) ym mis Rhagfyr.
Gofynnodd y cwmni am yr hawl i ddarlledu rhaglenni Nation Radio yn hytrach na'r gwasanaeth presennol wedi 1 Mehefin, sef cyfnod y drwydded newydd.
Ond mae datganiad Ofcom yn dweud bod RCL wedi penderfynu, ar ôl sicrhau'r drwydded, eu bod "eisiau parhau â'i wasanaeth presennol, Radio Ceredigion, gydag ymrwymiad i ddarparu cynnwys lleol, gan gynnwys newyddion lleol, ar gyfer ardal Ceredigion".
Ymgynghoriad
Dywed y datganiad: "Oherwydd ein bod yn ystyried bod y newidiadau yn wahanol iawn i'r rhai a gyflwynwyd gan RCL yn ei gais am y drwydded, aethom ati i gynnal ymgynghoriad pedair wythnos ar gynigion RCL, a ddaeth i ben ar 10 Mai, ac fe gafwyd chwe ymateb.
"Fodd bynnag, mae RCL wedi rhoi gwybod i Ofcom ei fod yn dymuno tynnu'r Cais i Newid Fformat yn ôl ac y bydd yn mynd ati i lansio Nation Radio yng Ngheredigion ar 1 Mehefin, yn unol â'r cais gwreiddiol am y drwydded."
Dywedodd yr arolygydd bod "y rhan fwyaf o'r ymatebwyr i'r ymgynghoriad yn feirniadol o benderfyniad RCL, naill ai fel Radio Ceredigion neu Nation Radio, i beidio â pharhau â'r ymrwymiad yn y fformat i ddarparu rhaglenni Cymraeg yn unol â thrwydded bresennol Ceredigion, sy'n dod i ben ar 31 Mai".
Cafodd Radio Ceredigion ei sefydlu yn 1992, a'i meddiannu gan Nation Broadcasting yn 2010.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2018