Cyhuddo dau am rannu lluniau o gorff Emiliano Sala
- Cyhoeddwyd
Mae dau berson wedi cael eu cyhuddo o rannu lluniau o gorff y pêl-droediwr Emiliano Sala ar wefan Twitter.
Mae Sherry Bray, 49, o Corsham a Christopher Ashford, 62, o Calne yn wynebu naw o gyhuddiadau rhyngddyn nhw.
Mae disgwyl i'r ddau yn ymddangos yn Llys Ynadon, Swindon ar 10 Gorffennaf.
Cafodd yr Heddlu wybod am fodolaeth y lluniau ar wefan Twitter ar 13 Chwefror.
Cafodd archwiliad post mortem ar gorff Emiliano Sala ei gynnal ar 7 Chwefror.
Mae Mrs Bray yn cael ei chyhuddo o dri achos o gamddefnydd cyfrifiadurol, gwyrdroi cwrs cyfiawnder ac o yrru negeseuon anweddus neu sarhaus.
Chwe chyhuddiad o gamddefnydd cyfrifiadurol sy'n wynebu Mr Ashford.
Dywedodd Anthony Johns, uwch-gyfreithiwr i Wasanaeth Erlyn y Goron ei fod wedi cyflwyno gwŷs i'r ddau ddod i'r llys "yn dilyn adolygiad craff o'r dystiolaeth".
Bu farw Sala a'r peilot David Ibbotson mewn damwain awyren dros Fôr Urdd ar 21 Ionawr.
Roedd Sala newydd ymuno â Chaerdydd o Nantes am ffi o £15m - y swm mwyaf yn hanes Caerdydd - ond bu farw ar y daith o Ffrainc cyn chwarae'r un gêm i'w glwb newydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd8 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd9 Chwefror 2019