Prosiect gerddoriaeth Gorwelion yn cyhoeddi 12 o sêr newydd
- Cyhoeddwyd
Mae prosiect Gorwelion wedi cyhoeddi'r 12 artist fydd yn derbyn cefnogaeth eleni.
Nod y prosiect blynyddol gan BBC Cymru Wales a Chyngor Celfyddydau Cymru yw cefnogi datblygiad cerddoriaeth annibynnol, gyfoes o Gymru.
Ymysg yr artistiaid sy'n derbyn cefnogaeth eleni mae'r band Gwilym, a enillodd bum gwobr yng Ngwobrau'r Selar 2019.
I ddathlu'r cyhoeddiad, cafodd yr artist Cadi Lane ei chomisiynu i greu gwaith celf yn cynnwys pob band i'w arddangos uwchben Stryd Womanby yng Nghaerdydd.
'Oes aur'
Bydd y cyflwynydd Bethan Elfyn - sy'n rheolwr prosiect ar Gorwelion - a'i thîm yn gweithio gyda'r artistiaid i hybu eu cerddoriaeth, cefnogi eu datblygiad a chodi eu proffil yng Nghymru a thu hwnt.
Dywedodd: "Rydyn ni'n derbyn cannoedd o geisiadau bob blwyddyn ac mae bob amser yn anodd iawn dewis 12 yn unig, ond mae'n deg dweud bod hon yn oes aur i gerddoriaeth Gymreig ar y funud."
Yn ôl y cyflwynydd radio Huw Stephens, mae'n "gyfnod cyffrous iawn o ran cerddoriaeth o Gymru".
"Mae Boy Azooga, er enghraifft, yn chwarae mewn gŵyl gyda Bob Dylan a Neil Young," meddai.
"Ac mae Alffa - y band roc o ogledd Cymru a oedd yn rhan o Gorwelion llynedd - yn gyfrifol am ysgrifennu Gwenwyn, y gân Gymraeg cyntaf i gael mwy na thair miliwn o wrandawyr ar Spotify.
"Mae hwn yn destament i bobl ar draws y byd sydd ddim yn unig yn gwrando ar gerddoriaeth sy'n dod o Gymru, ond pobl sy'n mynd allan o'i ffordd i'w ddarganfod."
Dyma restr Gorwelion eleni yn llawn:
Codewalkers
Darren Eedens & the Slim Pickin's
Endaf
Esther
Eve Goodman
Gwilym
HANA2k
Jack Perrett
Kidsmoke
Rosehip Teahouse
SERA
Y Cledrau
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Ebrill 2014
- Cyhoeddwyd6 Ebrill 2015
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2017