Mwy o bobl yn troi at fyfyrwyr am gymorth cyfreithiol
- Cyhoeddwyd
Mae rhestr aros chwe mis o hyd am wasanaethau myfyrwyr y gyfraith yn dilyn toriadau ym maes cymorth cyfreithiol.
Mae nifer o bobl sy'n ei chael hi'n anodd dod o hyd i gymorth cyfreithiol fforddiadwy gan gwmnïau bellach yn troi at fyfyrwyr Prifysgol De Cymru.
Yn ogystal â hynny mae 'na bryder bod toriadau'n cael effaith ar y ddarpariaeth i bobl sydd am gael mynediad i gyfiawnder drwy gyfrwng y Gymraeg.
Yn ôl y Weinyddiaeth Gyfiawnder cafodd £1.6bn ei wario ar gymorth cyfreithiol y llynedd.
Mae ystadegau Llywodraeth y DU yn dangos bod nifer y cwmnïau sy'n darparu cymorth cyfreithiol yng Nghymru wedi gostwng 29% ers 2012, y gostyngiad ar gyfartaledd yn Lloegr yw 20%.
Mae cymorth cyfreithiol yn gallu helpu i dalu costau cyfreithiol, gwasanaeth eirioli teuluol (advocacy) a chynrychiolaeth mewn llys neu dribiwnlys.
Ym Mhrifysgol De Cymru ym Mhontypridd mae gan adran y gyfraith glinig penodol ac mae cleientiaid yn teithio yno o ardal eang - o Wlad yr Haf, Bryste ac Abertawe.
"Prif bwrpas y clinig yw helpu myfyrwyr i gael profiad o weithio mewn cwmni ond ar y llaw arall mae'r clinig yn bwysig iawn i'r gymuned," meddai Holly Evans, un o'r darlithwyr.
"Chwech ohonom ni sydd yma'n y clinig a 'da ni'n delio gyda materion teulu, sifil a materion cyflogaeth."
'Prinder cyfreithwyr'
Ychwanegodd Ms Evans bod cynnydd sylweddol wedi bod yn y galw o'r gymuned dros y flwyddyn ddiwethaf.
Dywedodd mai'r ddau glinig fwyaf prysur o holl glinigau'r brifysgol ydy'r rhai mewn swyddfeydd Cyngor ar Bopeth ym Mhontypridd a Rhisga.
"Mae 'na glinig dim ond ar gyfer materion teulu yno a nhw oedd wedi gofyn i ni am yr help achos bod prinder o gyfreithwyr sy'n gallu helpu nhw."
Mae Rhiannon Phillips newydd gwblhau ei gradd a bu'n cymryd rhan yn y clinig gan weithio ar achosion gyda'r cyhoedd.
Dywedodd bod y gwaith sy'n cael ei wneud yno'n bwysig iawn.
"Ers gweithio'n y clinig dwi wedi dod i weld bod llawer o bobl mewn angen ac mae'n galed iawn cael cymorth cyfreithiol yn y gymuned, ac mae'r clinig yn chwarae rhan bwysig iawn i fi a dwi wedi dysgu llawer ers gweithio yma."
'Siom enfawr'
Yn 2013 newidiodd y system gan osod uchafswm am yr hyn all cyfreithwyr ei godi fesul achos.
Cafodd y mathau o achosion oedd yn gymwys ar gyfer cyngor cyfreithiol eu cyfyngu hefyd.
Mae Cyfraith Ceredigion Cyf wedi rhoi'r gorau i'w cytundeb cymorth cyfreithiol troseddol fis Chwefror, yn ôl y cyfarwyddwr Iestyn Lloyd Davies.
Mae'r cwmni, sydd â swyddfeydd yn Aberystwyth ac Aberaeron, wedi cynnig cymorth cyfreithiol ers degawdau, a dywedodd Mr Davies nad oedd yn benderfyniad hawdd.
"Dydy o ddim yn rhywbeth 'da chi'n 'neud i ennill cyfoeth... da chi'n 'neud o achos 'da chi'n helpu eich cymuned ac mae'n siom enfawr bo' ni 'di gorfod stopio.
"Yn y pendraw doedd 'na ddim lot o opsiwn gynnon ni."
Un o'r pethau sy'n ei boeni yw'r ddarpariaeth i bobl sydd am gael mynediad i gyfiawnder drwy gyfrwng y Gymraeg.
"O'r cyfreithwyr sy'n medru'r Gymraeg, dim ond nifer cyfyngedig sydd neu oedd yn cynnig cymorth cyfreithiol felly tra bod mwy a mwy o gyfreithwyr yn stopio'r ddarpariaeth yna - mae yna leihad o argaeledd o gymorth cyfreithiol drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'n broblem real bob dydd."
Ychwanegodd Mr Davies fod pobl yn mynd drwy achosion gan ddefnyddio'r Saesneg er mwyn bod yn "ddiffwdan".
"Ond y peryg ydy bo' nhw ddim yn medru cyflwyno'n iawn yr hyn maen nhw am ei gyflwyno ac mae 'na risg o hynny'n digwydd, yn enwedig yng nghefn gwlad," meddai.
'Technoleg i gynnig cymorth'
Mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn dweud ei bod am sicrhau cymorth i'r rhai sydd ei angen yn y dyfodol.
"Yn ogystal â'r Gwasanaeth Ffôn Cyngor Cyfreithiol Sifil, sy'n cynnig gwasanaethau cyfreithiol o bell i'r rhai sydd eu hangen, rydyn ni'n buddsoddi £5m mewn technolegau newydd arloesol i helpu pobl i gael cymorth cyfreithiol lle bynnag y maen nhw yng Nghymru a Lloegr," meddai llefarydd.
Daeth y Ddeddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012 i rym ym mis Ebrill 2013, gan gael gwared ar yr hawl i gymorth cyfreithiol i fwyafrif yr achosion yn ymwneud â chyfraith teulu preifat.
Dim ond y rhai sydd wedi dioddef trais domestig, neu'r rhai sy'n herio gorchymyn gofal gan yr awdurdod lleol gan ddefnyddio'r broses cyfraith gyhoeddus, sy'n parhau'n gymwys ar gyfer cymorth cyfreithiol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd17 Tachwedd 2018
- Cyhoeddwyd24 Mai 2019