Ysgol Gymraeg Gwynllyw dan fesurau arbennig
- Cyhoeddwyd
Mae ysgol uwchradd Gymraeg sy'n gobeithio elwa o gynllun ehangu gwerth £6m wedi ei osod dan fesurau arbennig.
Yn ôl Estyn, y corff sy'n gorchwylio ysgolion, mae angen i Ysgol Gyfun Gwynllyw gyflwyno gwelliannau brys mewn sawl maes.
Dywed adroddiad nad yw'r ysgol ym Mhont-y-pŵl yn cynllunio yn ddigon manwl i ddatblygu sgiliau yn enwedig ym maes llythrennedd.
Dywed llywodraethwyr yr ysgol eu bod yn derbyn casgliadau'r arolwg ac y byddant yn gweithredu argymhellion yr arolygwyr.
Mae adroddiad Estyn hefyd yn dweud: "Bach iawn yw'r cyfleoedd i fyfyrwyr ddatblygu eu sgiliau rhifedd mewn pynciau perthnasol ar wahân i fathemateg.
"Mae cyfleodd i ddisgyblion ymestyn eu sgiliau Technoleg Gwybodaeth hefyd wedi eu cyfyngu yn y pynciau hynny."
Er hyn mae'r arolygwyr yn cydnabod fod yr ysgol, sy'n darparu ar gyfer oedrannau 11-18 yn darparu "gofal addas a chefnogaeth i'r disgyblion".
Yn 2014 fe gafodd perfformiad yr ysgol ei nodi fel "da" gan Estyn. Ond ers hynny, meddai'r adroddiad, dyw arweinwyr heb ddangos y gallu i sicrhau "gwelliannau angenrheidiol".
Cynllun ehangu
Daw adroddiad Estyn cyn i Gyngor Torfaen benderfynu ar gynllun gwerth £6m i ehangu'r ysgol.
Roedd disgwyl i'r cyngor ddod i benderfyniad ddydd Mawrth, ond cafodd hynny ei ohirio tan yr wythnos nesaf.
Byddai'r cynllun yn ehangu oedran yr ysgol o 3-18, gan ddarparu addysg feithrin a chynradd.
Dywedodd y cynghorydd David Yeowell, o fwrdd gweithredol Cyngor Torfaen: "Yn amlwg mae angen gwelliannau ar frys ar yr ysgol ac rwy'n gwybod na chafodd y penderfyniad yma gan yr arolygwyr ei gymryd ar chwarae bach.
"Roedd diffyg cyrhaeddiad yng nghyfnod allweddol 4 ers 2014 yn ffactor ac er y gwaith penderfynol gan y pennaeth newydd a'r tîm i gyflymu newidiadau, ar adeg yr archwiliad doedd hyn ddim digon cyflym ar gyfer Estyn."
Dywedodd Lynne Davies, cadeirydd y llywodraethwyr, eu bod yn derbyn casgliadau'r adroddiad ond eu bod hefyd yn cydnabod y "cryfderau a'r gwelliannau" oedd wedi eu nodi gan yr arolygwyr dros y 18 mis diwethaf.
"Fe fydd yr ysgol yn llunio cynllun i weld sut i weithredu'r argymhellion ac rydym yn hyderus y bydd yna gynnydd digonol wedi ei wneud i ddangos i'r arolygwyr pan fyddant yn dychwelyd i fonitro'r sefyllfa," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf 2014
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2018