Galw am fwy o gymorth seicolegol i weithwyr gofal
- Cyhoeddwyd
Mae angen mwy o gymorth seicolegol ar weithwyr gofal cymdeithasol i sicrhau nad ydyn nhw'n gadael eu swyddi oherwydd pwysau gwaith, yn ôl academydd.
Yn ôl Miriam Leigh o Brifysgol Abertawe, mae cynnig cymorth i weithwyr sy'n delio a thrawma yn ddyddiol yn hollbwysig i'w hatal rhag gadael eu swyddi oherwydd straen.
Daw hyn ar ôl i ymchwil gan Brifysgol Bath Spa awgrymu bod 60% o weithwyr cymdeithasol yn y Deyrnas Unedig yn ystyried gadael eu swyddi.
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod "wedi darparu £30m ychwanegol eleni i fynd i'r afael â phwysau ar y gweithlu".
Yn ôl Ms Leigh mae pethau yn gwella ond dywedodd bod angen mwy o gymorth ar weithwyr yn y sector er mwyn sicrhau nad ydy pethau'n mynd yn drech na nhw.
"Mae heriau wastad wedi wynebu'r sector oherwydd bod y gwaith yn anodd, oherwydd natur y gwaith maen nhw'n delio ag e, ac mae pethau fel trawma a gwydnwch yn bethau mae'n rhaid iddyn nhw feddwl amdano o hyd," meddai.
"Ar hyn o bryd., beth maen nhw'n trial gwneud yw cael seicolegwyr ac efallai nyrsys i weithio mewn timoedd i helpu'r gweithwyr cymdeithasol achos dydyn nhw [gweithwyr gofal] ddim efallai'n arbenigwyr ar bopeth.
"Maen nhw'n arbenigwyr ond mae angen mwy o gymorth arnyn nhw."
Trafferthion denu myfyrwyr
Er yr agwedd bositif - mae'n amlwg nad yw prifysgolion yn ei chael hi'n hawdd denu myfyrwyr gofal cymdeithasol.
Yn 2012 roedd yna ymgyrch i ddenu mwy gan mai dim ond 85% o'r cyrsiau gafodd eu llenwi.
Roedd 'na lwyddiant gyda'r ffigwr yn codi i 91% yn 2015 ,ond ar ddechrau'r flwyddyn academaidd ddiwethaf roedd y ffigwr wedi gostwng i 88%.
Ym Mhrifysgol Abertawe mae Sian Jones yn ymchwilio i'r effaith o weithio a delio gyda phobl sy'n dioddef o drawma.
"Mae gweithwyr yn gweld a chlywed hanes pobl sydd wedi cael eu heffeithio gan drawma ac mae hwn yn cael effaith arnyn nhw," meddai.
"Mewn ffordd mae eu symptomau nhw yn adlewyrchu'r symptomau chi'n gweld yn y bobl maen nhw'n helpu.
"Mae'n gallu gwneud i bobl newid y ffordd maen nhw'n gweld y byd.
"Er enghraifft gweld pobl yn annibynadwy, neu'r byd yn lle anniogel i fyw ynddo, ac wedyn mae hwn yn effeithio ar eu perthynas gyda phobl eraill."
'Mwy o gymorth ar gael'
A hithau yn ei blwyddyn olaf o hyfforddi ac astudio i fod yn weithiwr gofal cymdeithasol, dyw Kate McGregor, er gwaethaf y penawdau negyddol, ddim yn poeni'n ormodol am y straen.
"Dyw e ddim yn rhywbeth fi'n poeni amdano ar y foment. Os chi'n defnyddio'r bobl yn y tîm a'r cwnsela ni'n cael mae'n rhoi mantais i chi," meddai.
"Mae lot mwy o gymorth ar gael nawr a lot mwy o adnoddau mae'r gweithle yn defnyddio. Maen nhw'n annog pobl i gael cwnsela a siarad am beth sy'n mynd ymlaen."
I Kate, fel nifer o weithwyr yn y maes, yr awydd i helpu wnaeth ei hysbrydoli i ddilyn gyrfa yn y maes.
"O'n i'n 17 pan ddechreuais i astudio yn y brifysgol ond roeddwn i wastad yn gwybod 'mod i mo'yn gweithio gyda phobl.
"Ar ôl y lleoliadau fi wedi penderfynu 'mod i mo'yn gweithio gyda phobl ifanc yn enwedig, a grymuso nhw i wneud beth maen nhw mo'yn mewn bywyd a rhoi gobaith iddyn nhw."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd6 Medi 2018
- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2019