Heddwas 'yn dioddef PTSD' yn ystod achos llofruddiaeth
- Cyhoeddwyd

Clywodd y gwrandawiad bod y Ditectif Gwnstabl Rebecca Bryant dan straen ar ôl adolygu lluniau "erchyll" achos llofruddiaeth amlwg arall.
Mae plismones a achosodd cwymp achos llofruddiaeth trwy fethu â datgelu ei bod yn adnabod aelod o'r rheithgor yn dweud ei bod yn dioddef o anhwylder straen wedi trawma (PTSD) ar y pryd.
Mae gwrandawiad disgyblu yn ystyried tri honiad o gamymddygiad dybryd yn erbyn y Ditectif Gwnstabl Rebecca Bryant.
Hi oedd y swyddog cyswllt a fu'n cefnogi teulu Lynford Brewster - dyn 29 oed a gafodd ei drywanu i farwolaeth yng Nghaerdydd yn 2016.
Cafodd tri dyn eu carcharu am lofruddiaeth yn Rhagfyr 2016 ond bu'n rhaid dileu'r euogfarnau pan ddaeth i'r amlwg bod cariad mab Ms Bryant, Lauren Jones, ar y rheithgor,
Fe gafwyd y diffynyddion yn euog am yr eildro ym mis Mawrth ond fe gostiodd ail achos llys tua £80,000 yn ychwanegol i drethdalwyr.
Mae Ms Bryant wedi'i chyhuddo o dorri safonau proffesiynol trwy fethu â hysbysu Llys y Goron Caerdydd o'r cysylltiad rhyngddi a Ms Jones, a dweud celwydd wrth i'r heddlu ei holi am y mater yn ddiweddarach.
Mae'r gwrandawiad hefyd wedi clywed ei bod wedi cynghori Ms Jones i ddweud wrth y llys y byddai'n colli diwrnod o wasanaeth ar y rheithgor i gadw apwyntiad heb ddatgelu mai apwyntiad gwallt oedd hynny.
Mae'n cyfaddef camymddygiad yn y tri achos, ond yn gwadu camymddygiad dybryd.

Mae Rebecca Bryant wedi ymddiheuro i deulu a ffrindiau Lynford Brewster am yr hyn fuon nhw drwyddo o'i herwydd hi
Clywodd y gwrandawiad dystiolaeth gan seicolegydd clinigol a ddywedodd bod yna "90% o siawns" bod Ms Bryant wedi bod yn dioddef o PTSD yn y cyfnod dan sylw, a "99% o debygolrwydd" y byddai hynny wedi amharu ar ei chrebwyll.
Ar ran Ms Bryant, dywedodd Jonathan Rees QC ei bod yn gweithio ar achos llofruddiaeth amlwg arall ar y pryd, ac wedi treulio cryn amser yn adolygu lluniau erchyll o'r farwolaeth.
Roedd hynny, meddai, wedi arwain at broblemau iechyd meddwl, gan amharu ar allu Ms Bryant i wneud penderfyniadau rhesymegol.
Ond yn ôl Jeremy Jones, sy'n amlinellu'r dystiolaeth yn ei herbyn, doedd hynny ddim yn dechrau cyfiawnhau gweithredoedd Ms Bryant.
Mae'n dadlau ei bod yn ymwybodol o'r canlyniadau posib gan fod Ms Bryant yn fwriadol wedi dweud wrth Ms Jones i beidio datgelu'r cysylltiad rhyngddynt.
Ni wnaeth Ms Bryant roi tystiolaeth ar lafar i'r gwrandawiad.
Mewn datganiad ar ei rhan, dywedodd Mr Rees ei bod yn ymddiheuro i deulu a ffrindiau Mr Brewster am yr hyn y bu'n rhaid iddyn nhw fynd drwyddo o'i herwydd.
Dywedodd hefyd ei bod yn ddiolchgar na achosodd i'r llofruddion osgoi cyfiawnder.
Mae Heddlu De Cymru wedi dweud eisoes nad yw Ms Bryant yn euog o unrhyw drosedd, ond fe allai gael ei diswyddo.
Mae'r gwrandawiad yn parhau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd26 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2019