Cwest Tregaron: Marwolaeth drwy anffawd
- Cyhoeddwyd
Mae cwest wedi dod i'r casgliad mai marwolaeth drwy anffawd oedd marwolaeth bachgen 11 oed a fu farw mewn gwrthdrawiad ger Tregaron y llynedd.
Clywodd cwest yn Aberystwyth sut cafodd Tristan Silver anafiadau difrifol yn y gwrthdrawiad ar yr A485 ym mhentref Olmarch ym mis Mai 2018 wedi i bry cop dynnu sylw'r gyrrwr.
Yn fuan wedi ei farwolaeth, daeth i'r amlwg ei fod wedi ennill cystadleuaeth gwaith cartref yn Eisteddfod yr Urdd 2018.
Digwyddodd y ddamwain am 08:45 ar ddydd Gwener 4 Mai, 2018.
Roedd Tristan - disgybl yn Ysgol y Dderi yn Llangybi - yn cael ei yrru i'r ysgol gan ei fam, Cloud Younger.
Roedd Tristan yn eistedd yn y sedd gefn, tra bod ei chwaer 8 oed, Branwen, yn eistedd yn y sedd flaen pan wnaeth Subaru glas Mrs Younger daro i mewn i gar Mitsubishi du oedd yn tynnu trelar yn llawn o ddefaid.
Clywodd y cwest nad oedd gyrrwr y Mitsubishi du ar fai mewn unrhyw ffordd am y ddamwain.
Dywedodd Mrs Younger fod pry cop wedi glanio ar ei llaw chwith ychydig eiliadau cyn y gwrthdrawiad, a bod ei merch wedi dechrau sgrechian.
Esboniodd ei bod wedi troi at ei merch er mwyn ceisio'i thawelu tra roedd hi'n gyrru.
Dywedodd David Glyndŵr Jones, gyrrwr y Mitsubishi bod yr holl beth wedi "digwydd mewn chwe eiliad".
Eglurodd ei fod wedi gweld y Subaru yn symud yn araf i ochr anghywir y ffordd. Clywodd y cwest fod car Mr Jones wedi stopio bron yn llwyr pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad.
Ychwanegodd Mr Jones ei fod wedi meddwl y byddai'r Subaru yn symud yn ôl i ochr gywir y ffordd, ond na wnaeth hynny ddigwydd.
Roedd Tristan yn ddisgybl yn Ysgol y Dderi, Llangybi.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mai 2018
- Cyhoeddwyd6 Mai 2018
- Cyhoeddwyd5 Mai 2018