Panel disgyblu'n diswyddo plismones am ddweud celwydd

  • Cyhoeddwyd
Ditectif Gwnstabl Rebecca BryantFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rebecca Bryant yn colli ei swydd yn syth

Mae plismones gyda Heddlu De Cymru a achosodd cwymp achos llofruddiaeth trwy gelu bod hi'n nabod aelod o'r rheithgor wedi cael ei diswyddo.

Roedd y Ditectif Gwnstabl Rebecca Bryant yn swyddog cyswllt teuluol yn achos llofruddiaeth Lynford Brewster, a gafodd ei drywanu i farwolaeth yng Nghaerdydd yn 2016.

Roedd yn cyfaddef i dri achos o gamymddygiad ond yn gwadu camymddygiad dybryd ar ôl celu'r ffaith bod cariad ei mab ar y rheithgor pan gafwyd tri diffynnydd yn euog o lofruddio.

Ond fe benderfynodd gwrandawiad disgyblu bod yna gamymddygiad dybryd mewn dau o'r achosion, ac mae'n colli ei swydd yn syth.

Pan ddaeth y cysylltiad rhyngddi a Lauren Jones i'r amlwg, fe ddywedodd celwydd wrth gydweithiwr a'i holodd am y mater cyn newid ei stori y diwrnod canlynol.

Dywedodd cadeirydd y panel disgyblu, Peter Griffiths QC ei bod wedi dweud "celwydd bwriadol i swyddog mwy profiadol oedd yn ymchwilio i fater o'r pwysigrwydd mwyaf".

Cyfaddefodd Ms Bryant hefyd ei bod wedi cynghori Ms Jones i beidio â datgelu'r union amgylchiadau wrth gael caniatâd i golli diwrnod o wasanaeth ar y rheithgor er mwyn osgoi gohirio apwyntiad trin gwallt.

Lynford BrewsterFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr euogfarnau gwreiddiol yn achos llofruddiaeth Lynford Brewster eu dileu oherwydd camymddygiad Rebecca Bryant

Roedd Ms Bryant, a ymunodd â'r llu yn 1998, wedi honni ei bod yn dioddef o anhwylder straen wedi trawma (PTSD) ar y pryd, ar ôl treulio cryn amser yn adolygu lluniau erchyll achos llofruddiaeth arall.

Ond dywedodd Mr Griffiths ei bod yna ddiffyg crebwyll cyson dros sawl wythnos, yn hytrach nag "un achos unigol o gamfarnu".

Cafodd tri dyn eu carcharu am yr eildro ym mis Mawrth am lofruddio Mr Brewster, oedd yn 29 oed ac yn dad i dri o blant.

Yn ystod y gwrandawiad fe ymddiheurodd Ms Bryant mewn datganiad i deulu a ffrindiau Mr Brewster am yr hyn roedden nhw wedi bod drwyddo o'i herwydd.

Fe gostiodd yr ail achos llys tua £80,000 yn ychwanegol i drethdalwyr.