Cairns yn cyhuddo Drakeford o 'hel bwganod' ar Brexit
- Cyhoeddwyd
Mae Ysgrifennydd Cymru wedi cyhuddo Prif Weinidog Cymru o "hel bwganod" wedi i Mark Drakeford sôn am effaith posib Brexit ar undeb y Deyrnas Unedig.
Mewn cyfarfod diweddar o weinidogion gwledydd Prydain ac Iwerddon dywedodd Mr Drakeford fod yna "bryder" am effaith Brexit heb gytundeb.
Dywedodd "nad oedd yr un llais [yn y cyfarfod] oedd yn credu y byddai gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb yn unrhyw beth ond hynod newidiol".
Ond yn ôl Alun Cairns mae Llywodraeth y DU eisoes wedi addo na fyddai unrhyw bwerau datganoledig yn cael eu colli, a dywedodd fod Llywodraeth Cymru eisoes wedi derbyn hyn.
"Mae'n ddiddorol fod y Prif Weinidog yn codi'r materion hyn oherwydd ef yw'r un sy'n gwrthwynebu'r cytundeb er mwyn gadael yr Undeb Ewropeaidd," meddai Mr Cairns.
"Yn amlwg fe fydd yr undeb yn dod yn agosach fel un wlad, fel un Deyrnas Unedig, unwaith fod yna gytundeb gyda'r Undeb Ewropeaidd."
Y llynedd, cyn ei ddyrchafiad i swydd Prif Weinidog, Mr Drakeford oedd un o'r rhai wnaeth sicrhau cytundeb a rhoi diwedd ar y ffrae rhwng llywodraethau Cymru a'r DU yn sgil honiadau fod Llundain yn defnyddio Brexit er mwyn ceisio cymryd pwerau yn ôl o'r gwledydd datganoledig.
Wrth wneud hynny, meddai Mr Cairns, roedd Llywodraeth Cymru i bob pwrpas wedi rhoi sêl bendith y broses o adael yr Undeb Ewropeaidd.
"Mae unrhyw ddehongliad arall yn fater o hel bwganod, sydd ddim yn help o gwbl wrth geisio denu buddsoddiad i Gymru," meddai Mr Cairns.
Ddyddiadau ar ôl mynychu Cyngor Prydain ag Iwerddon ym Manceinion yn ddiweddar dywedodd Mr Drakeford: "Mae'r tensiynau mae Brexit yn dod i'r wyneb yn rhai real.
"Mae undeb dan fygythiad gan yr union bobl sy'n disgrifio eu hunain fel unoliaethwyr.
"Mae tensiynau o fewn y DU yn fwy real ac amlwg nag ar unrhyw bryd yn ystod fy ngyrfa wleidyddol i."
'Dan bwysau'
Roedd Mr Cairns ar ymwelid ag Ysgol Bro Morgannwg yn Y Barri ddydd Llun ynghyd â David Liddington, pan wnaeth ei sylwadau.
Dywedodd Mr Liddington, Gweinidog Swyddfa Cabinet San Steffan, fod canlyniad refferendwm 2016 - gyda Chymru a Lloegr yn pleidleisio i adael, a'r Alban a Gogledd Iwerddon am aros - wedi rhoi'r undeb dan bwysau.
"Mae hynny'n anorfod yn ei gwneud hi'n sefyllfa anodd o ran cadw cydbwysedd," meddai.
"Fy syniad i am y ffordd gywir i ddelio gyda hyn yw sicrhau ein bod yn parchu canlyniad y refferendwm a gadel, ond i wneud hynny mewn ffordd drefnus."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd21 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd24 Ebrill 2018