Pryder am bolion diogelwch parhaol ar gopa'r Wyddfa
- Cyhoeddwyd
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi mynegi pryder am gynlluniau Parc Cenedlaethol Eryri i wneud polion diogelwch dros dro ar gopa'r Wyddfa yn rhai parhaol.
Cafodd y polion eu codi'n wreiddiol dair blynedd yn ôl gan y parc fel mesur diogelwch ac i sefydlogi'r teras.
Mae nifer wedi cwyno am y polion gan ddweud eu bod yn difetha'r dirwedd a'r olygfa.
Mae CNC yn dweud eu bod nhw wedi gofyn i'r Parc Cenedlaethol ystyried posibiliadau eraill.
'Sbwylio'r golygfeydd'
Mae dros 350,000 o bobl yn ymweld â'r copa pob blwyddyn un ai trwy gerdded neu ar y trenau sy'n rhedeg o Lanberis.
Ac yn ôl Howyn Roberts, sy'n cerdded i'r copa dros 100 o weithiau pob blwyddyn, mae'r polion yn "tynnu ffwrdd o'r golygfeydd".
"Mae 'na reswm pam eu bod nhw wedi'u codi yma ond maen nhw wedi bod yma braidd rhy hir," meddai.
"Maen nhw'n tynnu oddi wrth y golygfeydd hyfryd. Mae gennych chi Lyn Cwellyn, wedyn Hebog dros y ffordd ac mae pobl yn dod i ben yr Wyddfa ac mae'r ffenestri wedi eu gosod yn bwrpasol yn edrych i lawr, ac mae'r polion yn tynnu'ch llygad."
Fore Mercher cafodd cynllun i adeiladu polion parhaol ar safle Hafod Eryri eu cymeradwyo gan fwrdd cynllunio'r Parc.
Yn ôl Jonathan Cawley, Cyfarwyddwr Cynllunio a Rheolwr Tir Parc Cenedlaethol Eryri, mae'r cynlluniau'n angenrheidiol.
"[Maen nhw'n] atgyfnerthu'r teras sydd yna ar hyn o bryd ac mae angen gwella'r teras a rhoi rhyw fath o ffens yna," meddai.
"Pethau dros dro ydyn nhw ac ymhen amser fe fyddwn ni'n gosod gwifrau tenau fydd ddim yn tynnu sylw'r llygaid cymaint ag ydyn nhw rŵan."
Yn ôl Mr Cawley mae'n "deall yn llwyr" safbwynt CNC, ond bod rheoliadau iechyd a diogelwch yn dweud bod yn rhaid cael rhyw fath o ffens.
"Byddwn ni'n gwneud hynny mewn modd sensitif," ychwanegodd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Mai 2019
- Cyhoeddwyd22 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd7 Mehefin 2019