Isetholiad Brycheiniog: Plaid Cymru i gefnogi'r Dem Rhydd

  • Cyhoeddwyd
Adam Price
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Adam Price mai cefnogi'r Democratiaid Rhyddfrydol yw'r "peth cywir i'w wneud"

Mae Plaid Cymru wedi cyhoeddi na fyddan nhw'n sefyll yn isetholiad Brycheiniog a Maesyfed ar ôl penderfynu cefnogi'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Dywedodd arweinwyr y ddwy blaid ei bod hi'n bwysig fod pleidiau sydd am weld y DU yn aros yn yr Undeb Ewropeaidd yn "cydweithio".

Bydd isetholiad Brycheiniog a Sir Faesyfed yn cael ei gynnal ar 1 Awst ar ôl i 10,005 o bobl arwyddo deiseb i ddiswyddo'r AS Ceidwadol Chris Davies.

Fe fydd ymgeiswyr ar ran y Ceidwadwyr Cymreig, Plaid Brexit a Llafur Cymru hefyd yn sefyll.

Daeth Plaid Cymru yn bedwerydd yn yr etholaeth yn etholiad cyffredinol 2017 gyda 1,299 o bleidleisiau.

Dywedodd Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Syr Vince Cable ei fod "wrth ei fodd" gyda phenderfyniad Plaid Cymru i gefnogi eu hymgeisydd nhw.

"Rwy'n credu mai ni sydd â'r cyfle gorau i ennill yr isetholiad ac mae'n bwysig ein bod ni'n gweithio gyda'n gilydd mewn ffordd ehangach," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Syr Vince Cable ei fod "wrth ei fodd" gyda phenderfyniad Plaid Cymru

Fe awgrymodd Syr Vince hefyd y gall y pleidiau gydweithio mewn etholiadau yn y dyfodol.

"Dydyn ni ddim yn gwneud unrhyw ymrwymiadau penodol, ond does dim amheuaeth y gall cydweithredu fel hyn arwain at fesurau yn y dyfodol."

'Y cam cyntaf'

Dyma "gam mawr", yn ôl Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, gan ddweud mai dyma'r "peth cywir i'w wneud".

Dywedodd: "Ry'n ni'n byw mewn cyfnod difrifol, sy'n galw am wleidyddiaeth ddifrifol ac aeddfed.

"Mae pobl sydd o blaid aros eisiau i'r pleidiau sydd o blaid aros weithio gyda'i gilydd.

"Dyma'r cam cyntaf, rwy'n gobeithio, ac ry'n ni wedi ymrwymo i barhau i edrych ar sut y gallwn ni gydweithio mewn etholiadau yn y dyfodol hefyd."

'Hanesyddol a dewr'

Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Jane Dodds bod penderfyniad Plaid Cymru yn "hanesyddol a dewr".

"Rwy'n gweithio pob dydd i drechu'r Ceidwadwyr a Phlaid Brexit yma, ac mae'r gefnogaeth sy'n cael ei gynnig gan Blaid Cymru yn cael ei groesawu'n fawr," meddai Ms Dodds - ymgeisydd ei phlaid ar gyfer yr isetholiad.

Disgrifiad o’r llun,

Jane Dodds fydd yn sefyll ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol yn yr isetholiad

Dywedodd y sylwebydd gwleidyddol yr Athro Richard Wyn Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru ei fod yn teimlo nad oedd gan Blaid Cymru "lawer o ddewis yn y diwedd".

"Maen nhw wedi sôn ers misoedd bod yn rhaid amddiffyn Cymru yn erbyn Brexit ac wedi sôn am ryw fath o ad-drefnu gwleidyddol yn y tymor byr er mwyn trio ei stopio," meddai.

"Felly pan oedd y cyfle yma'n codi yn yr isetholiad ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed, dwi'm yn meddwl bod ganddyn nhw lawer o ddewis rhag camu o'r neilltu.

"Mae hefyd yn eithaf di-risg o safbwynt arweinyddiaeth Adam Price.

"Mae'n gwneud hyn o sefyllfa o gryfder wedi gwneud cystal yn yr Etholiad Ewropeaidd, ac yn realistig doedden nhw ddim am ennill yr isetholiad yma.

"Oherwydd bod Brycheiniog a Sir Faesyfed yn etholaeth sydd 'efo hanes o ganlyniadau agos iawn fe all y penderfyniad yma, a phenderfyniad y Gwyrddion i gamu o'r neilltu yn yr un modd, wneud gwahaniaeth i'r canlyniad ar adeg bwysig yn y drafodaeth ynglŷn â dyfodol Prydain yn yr Undeb Ewropeaidd."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Richard Wyn Jones bod y penderfyniad yn "eithaf di-risg o safbwynt arweinyddiaeth Adam Price"

Dydd Gwener yw'r diwrnod olaf i gynnig ymgeisydd ar ar gyfer yr isetholiad.

Mae aelodau'r Blaid Geidwadol yn etholaeth Brycheiniog a Sir Faesyfed wedi dewis Mr Davies i fod yn ymgeisydd ar eu rhan unwaith eto.

Bydd yn wynebu Ms Dodds o'r Democratiaid Rhyddfrydol, Des Parkinson o Blaid Brexit a Tom Davies o'r Blaid Lafur.

Mae'r Blaid Werdd wedi dweud na fydden nhw yn sefyll er mwyn rhoi gwell cyfle i ymgeisydd sy'n gwrthwynebu Brexit.