Kinnock: Angen i Corbyn edrych eto ar gytundeb Brexit
- Cyhoeddwyd
Mae Jeremy Corbyn wedi cael ei annog i orchymyn ASau Llafur i gefnogi cytundeb ymadael Theresa May ar Brexit, ac osgoi gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb.
Dywedodd AS Aberafan, Stephen Kinnock, fod y cytundeb yn gweithio o blaid Llafur gan fod consesiynau wedi'u gwneud tuag at y blaid.
Mae'n ofni gadael ar 31 Hydref heb gytundeb.
Mae Boris Johnson, y ffefryn i olynu Mrs May yn Rhif 10, wedi dweud bod yn rhaid i'r DU adael yr UE erbyn y dyddiad hwnnw, gyda neu heb gytundeb.
Mae Mr Corbyn hefyd yn wynebu pwysau gan ei blaid ei hun i gefnogi'r ymgyrch i aros yn yr UE a chael refferendwm arall ar Brexit.
Ond mae Mr Kinnock yn un o 25 AS Llafur sydd yn erbyn cynnal pleidlais arall.
"Y pwynt allweddol yw nid y cytundeb ymadael a fethodd â mynd drwy'r senedd yw hwn, ond yn hytrach cytundeb ymadael sydd wedi newid o ganlyniad i drafodaethau hir iawn gyda'r gwrthbleidiau, a sawl cyfaddawd," meddai Mr Kinnock.
"Mae undeb tollau yn mynd i fodoli o leiaf tan yr etholiad cyffredinol nesaf, mae 'na fil ar hawliau gweithwyr, mae addewidion ar gadw safonau amgylcheddol, ac yn bwysig hefyd mae ymrwymiad i bleidlais orfodol ar a ddylid cynnal refferendwm ar delerau'r cytundeb terfynol.
"Yn anffodus, ni chafodd y senedd gyfle i edrych am hyn oherwydd cafodd ei wrthod yn blwmp ac yn blaen gan ein hochr ni a chan eraill, a hyd yn hyn does dim trafodaeth na phleidlais arno wedi bod."
Mae Mr Kinnock yn ffyddiog y byddai nifer o ASau yn cefnogi'r cytundeb ymadael hwn.
Ychwanegodd: "Yr hyn dwi'n ei ddweud wrth y prif weinidog newydd ac i Jeremy Corbyn yw mai'r unig ffordd o gael y maen i'r wal yw cyflwyno rhywbeth i'r senedd.
"Rwy'n credu bod nifer sylweddol o ASau Llafur fydd yn cyd-fynd ag argymhelliad ein chwip oherwydd eu bod yn gwybod bod y posibilrwydd o adael yr UE heb gytundeb yn wirioneddol bosib.
"Fe fydd gennym ni Brif Weinidog cyn bo hir sydd wedi'i gwneud yn glir y bydd yn gadael ar 31 Hydref, beth bynnag a ddaw."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd27 Mai 2019
- Cyhoeddwyd13 Mai 2019
- Cyhoeddwyd3 Gorffennaf 2019