Pentref Llesiant £200m: Cyngor Sir Gâr i benderfynu

  • Cyhoeddwyd
Pentref Llesiant LlanelliFfynhonnell y llun, Cyngor Sir Gaerfyrddin
Disgrifiad o’r llun,

Mae cefnogwr y pentref llesiant yn gobeithio y bydd yn creu hyd at 2,000 o swyddi

Bydd y broses o roi caniatâd cynllunio i brosiect £200m i godi pentref lleisiant ar gyrion Llanelli yn mynd yn ei flaen ar ôl i Lywodraeth Cymru benderfynu peidio ag ymyrryd.

Mae'r pentref yn rhan o gynllun ehangach i ddatblygu economi'r rhanbarth drwy gyfrwng Bargen Ddinesig Bae Abertawe.

Cafodd cynllun y pentref llesiant ei gymeradwyo gan gynghorwyr Sir Gâr ym mis Ionawr ond yna cafodd ei gyfeirio at weinidogion ym Mae Caerdydd.

Ond dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod nawr wedi penderfynu nad oes rheswm ymyrryd.

Mae gan y cynllun nod o greu hyd at 2,000 o swyddi, a bydd y rheiny'n cynnwys adeiladu cyfleusterau hamdden, iechyd ac ymchwil ar yr arfordir ger Llanelli.

Mewn llythyr gafodd ei weld gan y BBC dywedodd Llywodraeth Cymru wrth Gyngor Sir Gaerfyrddin eu bod wedi ystyried nifer o faterion: "Ond mae nawr yn fater i'r awdurdod i benderfynu ar y cais."

Mae disgwyl i'r sector breifat gyfrannu £127m o'r gost, gyda'r cyngor sir hefyd yn cyfrannu.

Mae'r cynllun Bargen Ddinesig Bae Abertawe, sy'n cynnwys siroedd Abertawe, Caerfyrddin, Penfro a Chastell-nedd Port Talbot yn derbyn £40m gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.