Gwerthwr ceir i ad-dalu £1 ar ôl cael £769,000 trwy dwyll

  • Cyhoeddwyd
Gwyn Meirion Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Gwyn Meirion Roberts ei ddedfrydu i saith mlynedd o garchar am dwyllo cwsmeriaid

Mae gwerthwr ceir o Gyffordd Llandudno wedi cael gorchymyn i ad-dalu £1, er iddo dwyllo cwsmeriaid allan o £769,000, wedi i wrandawiad yn Llys Y Goron Caernarfon glywed nad oes ganddo unrhyw asedau.

Cafodd Gwyn Meirion Roberts, 50, ei garcharu am saith mlynedd ym mis Mawrth ar ôl i reithgor ei gael yn euog o 22 cyhuddiad o dwyll ac un o fasnachu twyllodrus.

Roedd achosion lle'r oedd cwsmeriaid wedi talu ernes i gwmni Roberts am gar newydd, ond heb dderbyn y cerbyd, tra bod eraill wedi colli ceir a miloedd o bunnoedd o ganlyniad i arwyddo cytundebau i gyfnewid eu cerbydau.

Roedd gan y cwmni - Menai Vehicle Solutions, oedd â chanolfan ar gyrion Bangor - golledion o £1.2m.

Fe glywodd y llys gan rai o'r dioddefwyr oedd wedi colli eu holl gynilion ac yn teimlo "cywilydd ac embaras ofnadwy".

Dywedodd un dyn ei fod wedi cyfnewid ei gar BMW a £53,000 am Porsche, ond ni dderbyniodd y car. Roedd dyn arall yn honni iddo golli £40,000.

Roedd Roberts yn gwadu ei fod wedi twyllo cwsmeriaid yn fwriadol.

'Masnachu cwbl ddiofal'

Mewn gwrandawiad enillion troseddau ddydd Mawrth, clywodd y llys nad oedd gan Roberts unrhyw asedau ac fe gyhoeddodd y Barnwr Huw Rees orchymyn tâl mewn enw o £1.

Dywedodd yr erlynydd Matthew Corbett Jones nad oedd modd cael mynediad at gyfrif pensiwn sy'n gysylltiedig â Roberts ar hyn o bryd ond y gallai hynny newid.

Yn ystod yr achos gwreiddiol dywedodd bargyfreithiwr ar ran yr amddiffyn bod hyn yn enghraifft o "fasnachu cwbl ddiofal" gan Roberts wrth i'r cwmni fynd i'r wal.

Ychwanegodd nad oedd Roberts wedi elwa'n bersonol o'r twyll.