Yr heddlu'n annog pobl i ildio arfau anghyfreithlon

  • Cyhoeddwyd
Gynnau gafodd eu hildio yng NghaerfyrddinFfynhonnell y llun, PRIF AROLYGYDD STEVE THOMAS, HEDDLU DYFED-POWYS
Disgrifiad o’r llun,

Rhan o'r casgliad gafodd ei gyflwyno i swyddogion yng ngorsaf heddlu Caerfyrddin yn ystod amnest gynnau cenedlaethol 2017

Mae Heddlu'r Gogledd ymysg y lluoedd sy'n apelio am bobl i ildio gynnau diangen yn ystod cyfnod o amnest am bythefnos o 20 Gorffennaf.

Mewn datganiad, dywedodd y llu fod llawer o arfau tanio yn cael eu cadw heb i'w perchnogion sylweddoli eu bod nhw'n anghyfreithlon, neu fod hen arfau'n cael eu hanwybyddu a'u hanghofio yng nghartrefi pobl.

Mae'r cyfnod ildio yn rhoi cyfle i bobl gael gwared ar ddrylliau tanio neu fwledi drwy fynd â nhw i orsaf heddlu lleol a'u trosglwyddo yno.

Bydd y cyfnod ildio yn rhedeg tan 4 Awst 2019.

Yn ystod y cyfnod hwn, ni fydd y rhai sy'n ildio'i drylliau tanio yn cael eu herlyn am feddiant anghyfreithlon ac mae modd iddyn nhw aros yn ddienw.

Fodd bynnag, bydd hanes pob arf sy'n weithredol yn cael ei wirio am dystiolaeth o'i ddefnydd mewn troseddau.

'Tawelu ofnau'

Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Steve Williams o Heddlu'r Gogledd: "O ystyried natur wledig ein hardal, efallai bod rhai pobl yn dal arfau tanio didrwydded y maent wedi'u hetifeddu, ac fe all fod ganddynt bryderon ynglŷn â beth i'w wneud â'r arfau hyn.

"Efallai hefyd bod yna bobl sydd, oherwydd y newid mewn deddfwriaeth, ag arf na allant ei feddiannu'n gyfreithlon. Mae'r cyfnod ildio hwn yn caniatáu iddynt gael gwared ar yr arfau hyn mewn modd sy'n gallu tawelu ofnau o'r fath.

"Rydym am i gynifer o arfau gael eu hildio ag sy'n bosibl felly byddwn yn annog y cyhoedd i ddod ymlaen."

Ffynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru

Mae'r ymgyrch genedlaethol yn canolbwyntio'n benodol ar arfau tanio, dyfeisiadau sy'n stynio a chwistrelliadau pupur.

Mae'r heddlu am amlygu perygl yr eitemau hyn ac atgoffa pobl eu bod yn anghyfreithlon yn y wlad hon ac y gallent arwain at ddedfryd o garchar i unrhyw un sy'n cael ei ddal â nhw yn eu meddiant.

Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Helen McMillan, arweinydd Cyngor Prif Swyddogion yr Heddlu o ran y Defnydd Troseddol o Ddrylliau Tanio: "Roedd yr ildio arfau tanio cenedlaethol diwethaf yn 2017 yn llwyddiant ac o bosib wedi helpu i achub bywydau.

"Gyda Strategaeth Trais Difrifol y Llywodraeth yn mynd rhagddi, teimlwn mai dyma'r amser iawn i ofyn i heddluoedd gynnal ymgyrch pythefnos arall i gasglu drylliau tanio a bwledi diangen. Mae gan bob arf tanio yr ydym yn ei gael y potensial i achub bywyd, felly gwnewch y peth iawn ac ildio'ch arf."

Gellir ildio arfau a bwledi yn y gorsafoedd heddlu canlynol yng Ngogledd Cymru - Wrecsam, yr Wyddgrug, y Rhyl, Llandudno, Bae Colwyn, Caernarfon, Bangor a Chaergybi. Fodd bynnag, os na all pobl ymweld â'r gorsafoedd hyn, fe'u cynghorir i gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 i wneud trefniadau eraill.

Am gyngor ar y ffordd orau o gludo'r arf yn gyfrifol o'r cartref i'w gorsaf heddlu fe'u cynghorir i ffonio 101 cyn dechrau ar eu taith.