Sefydlu gwobr i fyfyrwyr yn enw'r actor Syr Ian McKellen
- Cyhoeddwyd
Mae actor byd-enwog wedi cytuno i roi ei enw i wobr newydd fydd yn helpu myfyrwyr o'r canolbarth sydd eisiau hyfforddi yn y celfyddydau creadigol.
Pan ddaeth Syr Ian McKellen i berfformio yng Nghanolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth ym mis Chwefror 2019, cafodd dros £10,000 ei godi o werthiant tocynnau a rhoddion.
Nawr mae'r Ganolfan wedi sefydlu cronfa fydd yn rhoi gwobr ariannol i fyfyriwr er mwyn ei ddefnyddio ar gyfer hyfforddiant pellach.
Bydd y myfyriwr buddugol yn erbyn un wobr o £500, a gobaith y ganolfan ydy y bydd modd cynnal y gronfa am o leiaf 20 mlynedd.
Dywedodd Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr y Ganolfan: "Bwriad Syr Ian McKellen drwy gynnal y daith yma o amgylch 80 o theatrau Prydain oedd rhoi rhywbeth yn ôl i gefnogwyr, ac roedd cyfle gyda ni benderfynu beth oedden ni am ei wneud gyda elw'r noson.
"Fe greodd hwnna bot o arian o rhyw £10,000, a'n bwriad ni gyda hwnna oedd gwneud rhwbeth a oedd yn mynd i bara am gyfnod eitha hir.
"Roedd perffaith rhyddid gan y theatrau ar bob pwrpas i wario fel o'n nhw'n dymuno. Yr hyn oedd Ian McKellan yn gofyn oedd ei fod e er lles y gymuned a'r celfyddydau creadigol.
"Fe benderfynon ni, gan fod gyda ni rôl eitha pwysig yn gymunedol yn Aberystwyth a'r canolbarth, i wneud rhwbeth a fydde'n helpu rhai o'r pobl ifanc falle sydd wedi dod trwy'r ganolfan - neu yn digwydd byw yng nghanolbarth Cymru ac sydd ishe parhau yn y celfyddydau creadigol - boed yn ysgrifenwyr, technegwyr, actorion - mae'n agored iawn.
"Fe fydd y gwaddol yma'n cefnogi o leia un person ifanc a oedd ishe mynd ymlaen i astudio ymhellach.
"Mae 'na ymateb arbennig iawn wedi bod i'r gronfa ac i'r newyddion, a'r hyn bydd yn anodd iawn wrth gwrs bydd dewis a dethol pwy fydd yn cael ei gefnogi, neu ei chefnogi, yn flynyddol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Hydref 2018