'Cyfnod isel' yn wynebu rhai myfyrwyr

  • Cyhoeddwyd
Graduates

Mae yna alw am fwy o gefnogaeth i fyfyrwyr sydd newydd raddio er mwyn eu helpu integreiddio nôl mewn i'r gymuned.

Mae un ferch yn dweud iddi brofi "cyfnod isel" ar ôl gadael y brifysgol ac mae hi'n meddwl ei bod hi'n broblem ehangach.

Dywedodd llefarydd ar ran Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu yng Nghymru fod enghreifftiau amlwg a "bod nifer o resymau" dros y broblem.

Yn ôl elusen Mind Cymru mae'n bwysig i bobl sylwi fod yna "bethau anodd am y cyfnod yma".

Disgrifiad o’r llun,

Megan Elias

Stori Megan

Pan raddiodd Megan Elias o Brifysgol Bangor gyda gradd dosbarth cyntaf yn y Gymraeg yr oedd hi'n disgwyl cael swydd yn weddol gyflym ond nid felly y bu.

Yn fuan ar ôl gadael a symud nôl adref fe wnaeth hi ddechrau teimlo'n isel wrth fethu a ffeindio gwaith a theimlo'n unig.

"Roeddwn i wedi byw gyda fy ffrindiau am dair blynedd gyfan ac roedd o'n anodd symud nôl adref a byw hefo rhieni a phobl hŷn," meddai.

"Roedd llawer o fy ffrindiau wedi cael swyddi cyn graddio ac os ydych chi wedi bod ar yr un llwybr, ti eisiau bod yr un mor llwyddiannus â nhw.

"Roeddwn i mor hapus dros eu llwyddiant ond roeddwn i'n meddwl - pam ddim fi?"

Er nad oes ffigyrau i ddangos faint o bobl sy'n dioddef o gyflyrau iechyd meddwl ar ôl gadael y brifysgol, yn ôl ymchwil gan y City Mental Health Alliance roedd 49% o fyfyrwyr gafodd eu holi yn teimlo'n waeth ar ôl gadael y brifysgol.

Yn ôl Dr Ffion Williams, sy'n feddyg teulu ac yn llefarydd ar ran Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu yng Nghrymu, mae swyddi yn chwarae rôl fawr.

"Mae rhai graddedigion methu cael gwaith yn syth. Maen nhw wedi mynd i lot o ddyledion ac yn cwestiynu pam does dim swyddi?

"Maen nhw wedyn yn dod adref i fyw gyda'u rhieni ac mae hwnna'n anodd ar ôl cael y rhyddid.

"Pan maen nhw yn y brifysgol mae 'na lot fawr o wasanaethau fel cwnsela ar gael ond ar ôl gadael mae hynny wedi mynd ond rhaid cofio fod y gwasanaethau meddyg teulu yma."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywed elusen Mind Cymru fod angen sylwi fod hwn yn gyfnod anodd i fyfyrwyr

'Angen mwy o gymorth'

Yn ôl Megan mae hi wedi gweld nifer o ffrindiau'n teimlo'n debyg ac yn credu fod angen rhoi sylw i'r broblem.

"Pan ti'n gadael y brifysgol, dyna fo, ti'm yn cael cyswllt efo dy ddarlithwyr na rhai ffrindiau.

"Ti'n mynd o'r bubble bach 'ma nol adref sut oedd hi tair blynedd nôl a'r gwir ydi mi wyt ti wedi newid yn ystod y cyfnod, neshi newid lot .

"Dwi'n meddwl bod angen mwy o gymorth tra ti yn astudio a gwneud i bobl sylwi efallai gewch chi ddim swydd yn syth ac mae hynny'n iawn.

"Mae lot yn meddwl 'pam bod fi'n teimlo fel hyn, ti 'di cael tair blynedd grêt' ond tydyn nhw ddim yn deall fod hi'n anodd dod adref i awyrgylch hollol wahanol."

'Cyfnod anodd'

Yn ôl Sarah Moseley, cyfarwyddwr Mind Cymru mae angen i bobl sylwi fod hwn yn "gyfnod anodd".

"Da ni'n gweld bod ymlyniad rhwng methu ffeindio gwaith parhaol a cheisio cyrraedd disgwyliadau ac mae hynny yn niweidiol i iechyd meddwl.

"Mae'n bwysig fod nhw'n cael adnoddau fel rhai sydd ar Mind neu trwy gwnsela sy'n helpu nhw gymryd eu hamser."