Arweinydd Cymru a'r Byd yn 'ddiolchgar' i'r Steddfod

  • Cyhoeddwyd
Nia Wyn JonesFfynhonnell y llun, Llun teulu

Nia Wyn Jones fydd arweinydd Cymru a'r Byd yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst eleni.

Mae'r teitl yn anrhydeddu rhywun sy'n gweithio neu'n byw y tu allan i Gymru ac sy'n hyrwyddo'r wlad a'r iaith.

Bydd Nia, sy'n ferch i'r diweddar Gari Williams, yn cael ei gwobrwyo yn y Gymanfa yn y Pafiliwn ar y Maes nos Sul.

Mae'n dweud ei bod yn "ddiolchgar i'r Steddfod" am y cyfle.

Yn enedigol o Fae Colwyn hi nawr yn byw yn Aberdeen yn Yr Alban, a hynny wedi cyfnodau o fyw dramor.

"'Swn i wrth fy modd yn dod 'nôl i Gymru - os fyswn i'n cael y cyfle fyswn i'n dod yn ôl fory. Ond fysa swydd y gŵr ddim yn caniatáu," meddai.

"'Da ni'n ofnadwy o prowd i ddod o Gymru. Doedd o ddim yn beth hawdd o gwbl i adael."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Hafwen, mam Nia ac Aaron Emyr, sy'n wyth oed

Mae ei gŵr yn gweithio yn y diwydiant olew, sy'n golygu bod y cwpl, a'u mab Aaron, sy'n wyth oed, yn teithio'r byd.

Maen nhw wedi byw yn Surrey, Hen Golwyn, De Corea a Singapore.

Bu Nia yn Llywydd ar Gymdeithas Gymreig Singapore am dair blynedd, ac yn Ne Corea, drwy ryw ryfedd wyrth, roedd un o'i chymdogion yn siarad Cymraeg.

"Roedd o'n brofiad bizarre," meddai. "Roedd 'na gwpl o Gymru yn byw drws nesa' a dyma'r dyn yn rhoi cnoc ar y drws a dechra' siarad Cymraeg efo fi!"

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Gari Williams yn un o gomedïwyr a diddanwyr mwyaf poblogaidd Cymru

Ond er iddyn nhw fwynhau eu hamser dramor, mae Cymru - ac ardal Dyffryn Conwy yn enwedig - yn dal yn agos iawn at galon Nia.

"Cafodd Dad ei eni yn Llansannan a dwi'n cofio fo'n deud wrtha'i am y sioc o symud o Lansannan i Lanrwst - fel ei bod hi'n ddinas fawr!

"Ma' gen i atgofion melys iawn o'r ardal. Mae Aaron yn atgoffa fi lot o Dad - mae o'n licio deud jôcs."

"Dwi'n ofnadwy o falch a dwi jest mor ddiolchgar i'r Steddfod."

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei gynnal yn Llanrwst o 3-10 Awst.