Cefnu ar ysgol berfformio Llandysul wedi ffrae iaith
- Cyhoeddwyd
Mae ffrae wedi corddi yn Nyffryn Teifi yn sgil cynlluniau i agor ysgol berfformio newydd yn hen adeilad Ysgol Gynradd Llandysul.
Fe gysylltodd un o rieni'r ardal â chwmni Hyperbole Theatre Company i ofyn am eglurhad am eu polisi iaith.
Roedd gwefan y cwmni yn nodi y byddai'r holl hyfforddiant yn Saesneg "ac y byddai angen i'w myfyrwyr cenedlaethol a rhyngwladol fod yn rhugl yn y Saesneg er mwyn cymryd rhan, a hynny oddi mewn ac allan i'r dosbarthiadau".
Yn sgil ymholiadau pellach gan rai rhieni fe ychwanegwyd i'r cymal hwnnw, gan nodi nad oedd hynny'n effeithio ar sgyrsiau personol rhwng myfyrwyr.
Cwmni'n tynnu'n ôl
Ond mae cwmni Hyperbole Theatre Company bellach wedi cyhoeddi na fyddan nhw'n parhau â'u cynlluniau i agor ysgol berfformio breifat yn y dref, gan roi'r bai ar "garfan fechan ond dylanwadol, sydd wedi cael camargraff".
"Dydyn ni bellach ddim yn teimlo bod croeso i ni yn Llandysul, felly fydd adeilad hen Ysgol Gynradd Llandysul ddim yn gartref i'n cwmni bellach," meddai datganiad sydd wedi ei weld gan y BBC.
Wrth ymateb i'r wybodaeth ar wefan cwmni Hyperbole Theatre Company, fe ddywedodd swyddfa Comisiynydd y Gymraeg bod llythyr ar ei ffordd at y cwmni yn gofyn am eglurder ynglŷn â'u safbwynt ar y Gymraeg a chadarnhau na fyddan nhw'n rhwystro mynychwyr yr ysgol rhag siarad Cymraeg.
Dywedodd Cyngor Ceredigion eu bod yn ymwybodol fod ysgol berfformio Hyperbole wedi sefydlu yn hen Ysgol Gynradd Llandysul.
"Deallwn eu bod wedi prynu rhan o'r safle ar y farchnad agored gan y rhai a brynodd safle'r ysgol oddi wrth y cyngor, wedi i'r ysgol gau," meddai llefarydd.
Yn ôl y cyngor mae Cered - Menter Iaith Ceredigion - wedi bod mewn cysylltiad â'r ysgol berfformio er mwyn cynnig cefnogaeth ac adnoddau i ddatblygu gwasanaethau Cymraeg.
Mewn datganiad galwodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar yr awdurdod lleol ac Aelodau Cynulliad i bwyso ar y cwmni i gyflogi tiwtoriaid lleol all gynnal cyrsiau Cymraeg yn hytrach na "mewnforio" tiwtoriaid sydd ddim yn deall y gymuned leol.
Ond dywedodd cyfarwyddwr y cwmni, Gareth Williams na fyddan nhw bellach yn parhau â'u cynlluniau, gan awgrymu fod "ymgyrch o gasineb" wedi dechrau sydd wedi gwneud iddi ymddangos fel pe bai'r cwmni'n gwahardd y Gymraeg.
Ychwanegodd fod yr adeilad wedi bod yn wag am bron i dair blynedd a bod neb lleol wedi mynegi diddordeb yn ei brynu.
"Roeddem yn mynd i gynnig rhaglen ddysgu lawn... ond mae'n amlwg nad oes croeso i ni," meddai.
Cat Dafydd o Landysul, sy'n fam i bedwar o blant, gysylltodd yn wreiddiol â chwmni Hyperbole i ofyn am eglurhad am eu polisi iaith.
Wrth ymateb i benderfyniad y cwmni i roi'r gorau i'w cynlluniau, dywedodd ei bod wastad wedi ceisio cyfathrebu'n adeiladol â'r cwmni.
"Rwy'n gobeithio y medrwn ni barhau i drafod mewn modd positif ac adeiladu pontydd rhwng y cwmni a rhieni, er mwyn i Hyperbole Theatre ddod yn rhan werthfawr o'r dref," meddai.
"Golyga hynny bod angen iddyn nhw ymateb yn gadarnhaol i'n pryderon, yn hytrach na dweud ein bod wedi cael camargraff."
Dileu eu gwefan
Mae cwmni Hyperbole Theatre Company wedi dileu eu gwefan a'u tudalen Facebook bellach, ond roedd y wefan a gyhoeddwyd ddydd Llun yn dweud fod yr ysgol yn cynnig hyfforddiant ysbrydoledig i artistiaid ifanc gyda sesiynau wythnosol, gweithdai a phrosiectau perfformio.
Roedd yn nodi fod yr ysgol ychydig dros ddwy awr o Fryste a bod y safle wedi ei leoli'n berffaith i wasanaethu artistiaid proffesiynol.
Gwrthododd y cwmni gais BBC Cymru am gyfweliad ddechrau'r wythnos, ac yn sgil y datblygiadau diweddaraf, mae BBC Cymru wedi anfon cais arall at y cwmni.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd12 Ebrill 2019