Dysgwr Cymraeg sydd nawr yn dysgu'r iaith i eraill

  • Cyhoeddwyd

Yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol fe fydd enillydd Dysgwr y Flwyddyn yn cael ei gyhoeddi. Pedwar sydd wedi dod i'r brig eleni.

Bu BBC Cymru yn eu holi ac yn gofyn iddynt pam eu bod wedi penderfynu dysgu'r iaith.

Disgrifiad,

Cyngor Paul Huckstep i eraill yw bod hi'n bwysig 'dal ati' wrth ddysgu'r Gymraeg

Saith mlynedd yn ôl roedd Paul Huckstep yn byw yn ne Lloegr. Ond roedd wedi penderfynu symud i Gymru ac yn awyddus i ddysgu'r iaith. Fe aeth ati yn ei gartref gan ddefnyddio'r adnodd ar-lein Say Something in Welsh.

Yna ar ôl cyrraedd Penmachno yn Nyffryn Conwy dechreuodd "siarad efo pobl yn y pentref".

Mae'r gefnogaeth o'r cychwyn wedi bod yn dda, meddai.

"100% fyswn i yn deud... o'r diwrnod cyntaf ges i ffrindiau yn y pentref sydd dim ond yn siarad Cymraeg efo fi. Roedd hynny yn bwysig i helpu fi gwella fy Nghymraeg."

Mae'n grediniol bod medru siarad Cymraeg yn bwysig ond yn cyfaddef bod hi'n anodd ar y dechrau.

Perthyn i'r gymuned

"Dwi'n cofio mynd am paned am awr bob wythnos a siarad dim ond Cymraeg. Dwi'n cofio dod yn ôl efo cur pen!"

Ers medru siarad dwy iaith mae'n dweud bod ei bersbectif wedi newid.

"Dwi'n meddwl lot am Saesneg.. dwi'n meddwl, 'O ti yn deud hwn yn Gymraeg ond ddim yn Saesneg'. Dwi dal i gael fy nrysu yn fy mhen... ond rhan fwyaf mae'n rhywbeth da."

Erbyn hyn mae Paul Huckstep yn aelod o'r côr lleol ac yn llywodraethwr yn yr ysgol gynradd ac yn teimlo yn rhan o'r gymuned. Mae hefyd yn rhedeg y dosbarth dysgu Cymraeg yn y pentref.

Beth yw ei neges felly i'r rhai sy'n symud i fyw i Gymru?

"Jest trïa dysgu Cymraeg. Os dach chi yn [gallu dweud] jest un gair neu un frawddeg ella gei di profiad bod yn rhan o gymuned ac mae jest yn grêt ac yn dda o ran ymennydd hefyd."

Bydd enw'r enillydd yn cael ei gyhoeddi yn ystod seremoni Dysgwr y Flwyddyn ar lwyfan y Pafiliwn, nos Fercher 7 Awst.