Tawel Fan: Teulu yn cael gwybod am gamau disgyblu

  • Cyhoeddwyd
Tawel Fan
Disgrifiad o’r llun,

Fe gaeodd ward Tawel Fan yn 2013

Cafodd camau disgyblu eu cymryd yn erbyn deg nyrs mewn uned iechyd meddwl ddadleuol yn sir Ddinbych gafodd ei chau yn 2013.

Roedd ward Tawel Fan yn Ysbyty Glan Clwyd yn arfer gofalu am yr henoed a phobl gyda dementia, ond cafodd ei chau yn dilyn honiadau o gam-drin.

Mae'r manylion ynglŷn â'r camau disgyblu wedi dod i'r fei yn dilyn cais rhyddid gwybodaeth gan deulu un o gyn gleifion y ward.

Fe wnaeth un adroddiad blaenorol ddisgrifio cleifion yn cael eu trin fel "anifeiliaid mewn sw", ond fe wnaeth adroddiad swyddogol arall gan HASCAS (Health and Social Care Advisory Service) ddod i'r casgliad nad oedd unrhyw dystiolaeth o gam-drin sefydliadol.

Mae Bwrdd Prifysgol Betsi Cadwaladr, wedi cadarnhau fod "deg aelod o staff nyrsio wedi bod yn rhan o gamau disgyblu, rhybuddion neu sancsiynau".

Dywed y bwrdd fod "24 aelod o'r staff nyrsio hefyd wedi cael eu hymchwilio oherwydd methiannau honedig ar y ward...boed hynny oherwydd gofal meddygol gwael i gleifion neu honiadau arall o gamymddwyn".

Disgrifiad o’r llun,

Roedd adroddiad annibynnol Donna Ockenden yn 2015 yn dweud bod yna gamdriniaeth drwyddi draw ar y ward

O'r rhain, cafodd 14 eu hatal o'u dyletswyddau neu gael eu cyfyngu o ran eu dyletswyddau.

Dyw'r bwrdd iechyd heb ryddhau manylion ynglŷn â'r honiadau yn erbyn yr aelodau unigol, ond maen nhw'n dweud fod naw o'r rhai fu'n destun ymchwiliad wedi dychwelyd i nyrsio.

Dywedodd llefarydd ar ran Betsi Cadwaladr: "O ystyried argymhellion adroddiad HASCAS, cyngor ac uwch swyddogion y bwrdd a mewnbwn arbenigwr annibynnol, rydym wedi gweithredu yn unol, a'r tu hwnt, i unrhyw argymhellion ac wedi gweithredu lle bod hynny'n briodol."

'Siomedig'

Phil Dickaty, mab claf a fu farw ar ward Tawel Fan yn 2012, oedd yn gyfrifol am y cais rhyddid gwybodaeth.

"Dyw'r bwrdd iechyd erioed wedi dweud wrth y teuluoedd beth ddigwyddodd i'r staff oedd yn gweithio yno ac yr oeddem ni yn gwybod mewn rhai achosion oedd wedi eu hatal o'u gwaith," meddai Mr Dickaty.

"Mae'n siomedig na chawsom wybod hyn, a bod yn rhaid defnyddio cais rhyddid gwybodaeth er mwyn ei gael.

"Roedd adroddiad HASCAS yn rhoi darlun llawer mwy caredig o'r hyn oedd yn digwydd o fewn Tawel Fan, gan ddweud bod yna ddim tystiolaeth o gam-drin sefydliadol.

"Mae'r ystadegau yma yn dangos nad oedd popeth yn iawn, er gwaetha'r hyn gafodd ei ddweud wrthym."