John Toshack: 'Dylai Gareth Bale siarad drosto'i hun'
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-reolwr Cymru a Real Madrid, John Toshack wedi beirniadu Gareth Bale am beidio â chofleidio diwylliant Sbaen.
Daw'r sylwadau ar ôl misoedd o ansicrwydd am ddyfodol Bale, gyda Real yn canslo trosglwyddiad y Cymro i glwb yn China dros y penwythnos.
Dywedodd Toshack - a roddodd ei gap rhyngwladol cyntaf i Bale yn 2006 - ei fod yn "drist" gyda'r sefyllfa.
"Y peth siomedig i mi yw dydw i ddim yn clywed na gweld Gareth Bale yn dweud dim byd," meddai Toshack. "Mae popeth yn dod gan ei asiant.
"Dere 'mlaen Gareth, rho gyfweliad, siarada dy hunan - ti wedi bod yno am chwech neu saith mlynedd nawr, ti ddim yn siarad yr iaith. Mae hynny'n sarhad ar y bobl ti'n gweithio iddyn nhw."
'Dysga'r iaith'
Roedd Bale wedi cael ei gysylltu gyda throsglwyddiad i glwb Jiangsu Suning ar gytundeb tair blynedd, gyda rhai yn awgrymu y byddai'n ennill cyflog o dros £1m yr wythnos.
Yr wythnos ddiwethaf dywedodd rheolwr Real Madrid, Zinedine Zidane fod Bale yn "agos iawn at adael" y clwb ac y byddai ei ymadawiad y "peth gorau i bawb."
Ond mae'n ymddangos fod Real Madrid bellach wedi newid eu meddyliau gyda rhai yn adrodd eu bod yn awyddus i dderbyn ffi amdano.
"Mae'n fy ngwneud i'n drist. Mae'n drueni mawr nad yw wedi ymgysylltu ychydig bach mwy â'r wlad y mae'n byw ynddi, gyda'r cefnogwyr sydd yno bob wythnos," ychwanegodd Toshack.
"Dere 'mlaen Gareth, cymera 'chydig bach o amser i ffwrdd a dysga'r iaith. Dyw hynny'n sicr heb helpu ei achos yma ym Madrid."
Mae gan Bale dair blynedd ar ôl ar ei gytundeb ym Madrid.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd21 Gorffennaf 2019