Ffoaduriaid Calais yn ysbrydoli gwaith enillydd gwobr gelf

  • Cyhoeddwyd
Daniel Trivedy
Disgrifiad o’r llun,

Bu Daniel Trivedy yn ymweld â ffoaduriaid yn Calais wrth baratoi ei waith ar gyfer yr arddangosfa

Fe fydd gwaith enillydd y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, sef patrymau carthenni Cymraeg wedi eu hargraffu ar flancedi argyfwng, yn cael ei brynu gan Amgueddfa Cymru.

Am y tro cyntaf mae Amgueddfa Cymru wedi nodi y byddan nhw'n prynu darn o waith gan artist sy'n arddangos yn yr Arddangosfa Agored "fel arwydd o'i hymrwymiad at gefnogi artistiaid Cymru."

Mae gwaith Daniel Trivedy, sy'n byw yn Sgiwen ger Castell Nedd, wedi ei ysbrydoli gan ddatganiad 'cenedl noddfa' Llywodraeth Cymru ynglŷn â helpu ffoaduriaid a cheiswyr lloches.

Fe fydd yn derbyn £5,000 a'r Fedal Aur am ei arddangosfa.

Mae'r gwaith yn dod â dwy elfen weledol a'u chydgysylltiadau at ei gilydd", meddai'r dylunydd, a roddodd y gorau i'w yrfa ym maes marchnata er mwyn canolbwyntio ar ei waith celf.

"Mae gan blancedi a'u patrymau gyfeiriadaeth luosog - yn gyffredinol: hiraeth, cynhesrwydd, plentyndod, traddodiad, cof, cysur ac etifeddiaeth," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r patrwm carthenni wedi eu hargraffu ar y blancedi argyfwng gyda leino a phaent arbennig o gwmni yng Nghwmbran

"Mewn gwrthgyferbyniad â'r elfen gyntaf mae'r blanced argyfwng wedi'i fasgynhyrchu, yn rhad ac at ddefnydd, wedi'i weld mewn ffotograffiaeth ddogfennol yn ymwneud â gwersylloedd ffoaduriaid neu fudwyr yn cyrraedd glannau Ewrop ac efallai, mae'n cyfeirio at boen a dioddefaint a rhyw fan arall ac 'eraill'."

Fe gymerodd pob un o'r blancedi rhwng saith a naw awr yr un i'w cynhyrchu, ac fe fydd nawr yn dod yn rhan o gasgliad Amgueddfa Cymru.

"Rydyn ni ar gyffordd hynod ddiddorol yn ein gwleidyddiaeth", meddai Mr Trivdey, sy'n darlithio yng Ngholeg Celf Caerfyrddin.

"Dwi'n gobeithio y bydd yn cael ei weld gan wleidyddion Cymru, fel ei fod yn gallu ysbrydoli trafodaeth bellach ar bwy ydyn ni fel pobl, ond yn ogystal â hynny dwi'n credu bod modd i bobl sy'n ei weld ddod at y darn ar sawl lefel."

Celf sydd ac arwyddocâd

"Cawsom ein taro gan uniongyrchedd a symlrwydd y gweithiau celf hyn," meddai Manon Awst am waith Daniel Trivedy, a oedd ynghyd â'r curadur Bruce Haines a'r arbenigwraig ar grefft a dylunio Teleri Lloyd-Jones yn dethol yr Arddangosfa Agored a dyfarnu'r gwobrau.

"Er mai natur dros dro, a thafladwy hyd yn oed, sydd i'r deunydd, mae i'r gweithiau celf arwyddocâd yn deillio o'r darlleniadau niferus posibl.

"Maent yn arwydd o oroesi mewn sefyllfa o argyfwng sy'n benodol Gymreig, a allai fod yn ecolegol, gwleidyddol, economaidd neu gymdeithasol."

Mae tair medal aur yn cael eu dynodi eleni - am gelfyddyd gain, crefft a dylunio a phensaernïaeth.

Bev Bell-Hughes, crochenydd o Gyffordd Llandudno, sydd wedi ennill y Fedal Aur am Grefft a Dylunio am grochenwaith wedi ei ysbrydoli gan dirwedd Glannau Conwy.

Yn cipio'r Fedal Aur am Bensaernïaeth i gwmni Featherstone Young o Lundain am eu dyluniad i drawsnewid Tŷ Pawb yn Wrecsam.