Ysgolion yn agor yn ystod gwyliau'r haf er lles plant

  • Cyhoeddwyd
Peintio yn yr ysgol
Disgrifiad o’r llun,

Bydd cyfle i blant gymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon a chael brecwast a chinio

Mae mwy a mwy o ysgolion yn dewis agor eu drysau yn ystod gwyliau'r haf er mwyn i blant allu cymryd rhan mewn gweithgareddau ac i fwyta ar rai achlysuron.

Am dair wythnos dros y gwyliau, mae disgwyl i tua 3,700 o blant mewn 76 o ysgolion ledled Cymru fynd yn ôl i'r ysgol - cynnydd o tua 1,000 ar ffigwr y llynedd.

Yn lle gwersi ffurfiol, fe fyddan nhw'n cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau eraill, ond hefyd yn cael brecwast a chinio yn yr ysgol.

Unwaith yr wythnos bydd rhieni yn ymuno â'u plant am ginio.

Mae'r cyfan yn rhan o gynllun o'r enw Rhaglen Gwella Gwyliau'r Haf, sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Janet Hayward bod agor dros yr haf wedi dod yn "rhan ganolog o'n hysgol"

Cafodd y cynllun ei sefydlu oherwydd pryder nad yw rhai plant yn cael bwyd maethlon yn ystod gwyliau ysgol, ac mae unigrwydd a diffyg gweithgareddau i'w diddori hefyd yn achosi pryder.

"Mae'n plant a'n teuluoedd ein hangen ni i fod yno iddyn nhw, nid yn ystod y tymor yn unig ac nid yn y ffordd draddodiadol yn unig," meddai Janet Hayward, pennaeth Ysgol Gynradd Tragatwg yn Y Barri.

"Mae o wedi dod yn rhan ganolog o'n hysgol."

'Sgandal genedlaethol'

Eleni bydd y cynllun yn costio £900,000 i'w redeg, ond yn ôl Sefydliad Bevan - mudiad sy'n gweithio i leihau tlodi - nid yw hynny'n agos at fod yn ddigon i gyrraedd yr holl blant sydd wir angen gwasanaeth o'r fath.

Mewn adroddiad ar yr hyn maent yn ei alw'n "sgandal genedlaethol" mae'r sefydliad yn dweud y byddai'n costio £4.75m i warantu lle ar y cynllun i chwarter y plant sydd â hawl i ginio ysgol am ddim.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi cynyddu'r cyllid ar gyfer y rhaglen o £400,000 i £900,000 eleni.

Cymerodd bron i 2,500 o blant ran yn y cynllun y llynedd.