Carchar ychwaengol i'r pedoffeil Ian Watkins

  • Cyhoeddwyd
Ian WatkinsFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ian Watkins eisoes yn treilio dedfryd o 29 mlynedd yn yn carchar

Mae'r pedoffeil a chyn-ganwr roc Ian Watkins wedi ei gael yn euog o fod â ffôn symudol yn ei feddiant yn y carchar.

Fe wnaeth swyddogion yng ngharchar Wakefield ddod o hyd i'r ffôn bychan ar ôl gorfodi'r cyn-ganwr i ddadwisgo ac yna archwilio ei gorff.

Cafodd Watkins, cyn-ganwr gyda'r Lostprophets, ei garcharu am 29 mlynedd yn 2013 ar ôl cyfaddef i 13 o droseddau rhyw difrifol, gan gynnwys ceisio treisio babi.

Ddydd Gwener yn Llys y Goron Leeds fe gafodd Watkins, 42, ei ddedfrydu i 10 mis o garchar ychwanegol.

Dywedodd y Barnwr Rodney Jameson QC: "Y gwir amdani yw pe na bai cosb gredadwy am fod â ffôn symudol yn yr amgylchiadau hyn yna fe fyddwch yn dysgu gwers eich bod yn gallu cael ffôn arall - a dwi ddim am wneud hynny."

Yn ei amddiffyniad roedd Watkins o Bontypridd wedi dweud wrth y rheithgor fod ei "gyd garcharorion yn cynnwys llofruddwyr, treiswyr a phedoffiliaid - y math gweithaf o bobl".

Honnodd fod dau ddyn, roedd yn gwrthod eu henwi, wedi mynd i'w gell a dweud wrtho am edrych ar ôl y ffôn.