IPCC: Heddlu wedi 'methu sawl cyfle' i ddal Ian Watkins

  • Cyhoeddwyd
Ian WatkinsFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru

Fe wnaeth Heddlu De Cymru fethu sawl cyfle i ddal y pedoffeil Ian Watkins yn gynharach, yn ôl ymchwiliad.

Yn 2013, cafodd Watkins, cyn-ganwr grŵp y Lostprophets, ddedfryd o 35 mlynedd ar ôl pledio'n euog i droseddau rhyw yn erbyn plant, gan gynnwys ceisio treisio babi.

Daeth ymchwiliad Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu i'r canlyniad nad oedd yr heddlu wedi gweithredu'n ddigonol ar adroddiadau'n ymwneud â'r canwr rhwng 2008 a 2012.

Hefyd roedd swyddogion wedi methu cyfle i chwilio drwy ffon symudol partner y canwr, fyddai wedi cynnig gwybodaeth amdano.

Dywedodd Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu De Cymru bod y llu yn "edifar" am y methiannau, ac yn "ymddiheuro".

Honiadau o droseddau rhyw

Daeth yr ymchwiliad i'r canlyniad bod Heddlu De Cymru wedi methu a delio'n gywir gydag wyth adroddiad a thri chofnod o wybodaeth gan chwe unigolyn am Watkins rhwng 2008 a 2012.

Yn ogystal, methodd y llu gyfle i chwilio drwy ffon Joanne Mjadzelics, cyn-gariad Watkins, yn 2009.

Mae'r adroddiad damniol yn dweud y byddai hynny wedi dangos tystiolaeth o ddymuniad Watkins i gael rhyw gyda phlentyn, ac wedi cadarnhau adroddiadau eraill.

Disgrifiad o’r llun,

Cafwyd Joanne Mjadzelics yn ddieuog o saith cyhuddiad yn ymwneud â lluniau anweddus o blant

Daeth yr adroddiad i'r canlyniad nad oedd y methiant i weithredu oherwydd enwogrwydd Watkins, ond oherwydd teimlad nad oedd Ms Mjadzelics yn gredadwy.

Mae'r adroddiad yn dweud hefyd bod nifer o unigolion eraill wedi cynnig gwybodaeth am ddefnydd Watkins o gyffuriau a'i diddordeb rhywiol mewn plant rhwng 2008 a 2012.

Ond ni chafodd y canwr ei arestio na'i holi i ateb yr honiadau.

Tuedd swyddogion

Daeth troseddu Watkins i'r amlwg ym mis Medi 2012, ar ôl i'r heddlu ymchwilio i honiadau'n ymwneud â chyffuriau yn ei erbyn.

Cafwyd Watkins, a dwy ddynes arall, yn euog ym mis Rhagfyr 2013.

Dywedodd Comisiynydd yr IPCC yng Nghymru, Jan Williams, bod yr ymchwiliad wedi amlygu'r materion "mwyaf pryderus" am y ffordd o ddelio gydag adroddiadau o "gamdriniaeth ffiaidd o blant" gan Watkins.

Dywedodd bod swyddogion wedi dangos tuedd wrth ymateb i bob adroddiad, "boed hynny'n ymwybodol neu'n anymwybodol", gan gynnwys "diffyg meddwl agored a chwilfrydedd proffesiynol" yn achos adroddiadau gan Ms Mjadzelics.

'Y tyst perffaith'

Yn ogystal, daeth yr ymchwiliad i'r canlyniad bod sawl gwendid gan Heddlu De Cymru, yn cynnwys:

  • Gwendid a diffyg cadw cofnodion;

  • Rheolaeth wael o wybodaeth;

  • Diffyg manylder wrth ddatblygu ymchwiliadau;

  • Gwendid wrth ddelio gydag adroddiadau sydd ddim gan ddioddefwr.

Mae Ms Mjadzelics wedi croesawu'r adroddiad gan yr IPCC gan ddweud ei bod o'r diwedd wedi cael ei chredu.

"Dwi wir yn gobeithio bod gwersi wedi eu dysgu gan Heddlu De Cymru fel sydd wedi ei awgrymu, a bod pobl eraill sydd yn ddigon dewr i wneud adroddiadau o droseddu difrifol yn erbyn enwogion neu unrhyw un arall, yn cael eu trin gyda'r parch a phroffesiynoldeb maen nhw'n haeddu, a ddim eu diystyru a'u henllibio am nad ydyn nhw yn cael eu gweld fel y 'tyst perffaith'."

Ychwanegodd y bydd nawr yn cymryd cyngor cyfreithiol er mwyn ystyried os yw hi am gymryd unrhyw gamau pellach yn erbyn yr heddlu.

'Ymddiheuro'

Mae Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu De Cymru, Jeremy Vaughan wedi dweud bod yr heddlu'n "edifar" am y methiannau, ac yn "ymddiheuro" am beidio "ymchwilio yn iawn i wybodaeth am ymddygiad troseddol Watkins".

Dywedodd bod yr heddlu wedi derbyn argymhellion yr adroddiad yn llawn, ac wedi "cyflwyno mesurau i wella'r ffordd rydan ni'n diogelu pobl sy'n agored i niwed".

Ychwanegodd bod "Heddlu De Cymru bellach wedi gwella'r ffordd y mae'r ymchwiliadau cam-drin plant cymhleth hyn yn cael eu rheoli drwy gynnal adolygiad manwl i brosesau a strwythurau diogelu'r cyhoedd".

'Camgymeriadau elfennol'

Mae Comisiynydd Plant Cymru, Sally Holland wedi dweud bod yr adroddiad yn "peri pryder" ac na ddylai sefyllfa fel hyn fod wedi codi heddiw.

"Mae'n peri pryder i feddwl bod cynifer o gamgymeriadau elfennol yn medru digwydd yng Nghymru yn yr 21ain ganrif, a wnaeth arwain at oedi o bedair blynedd i ddod â Watkins i gyfiawnder.

"Does dim esgus nac amddiffyniad."

Yn sgîl yr ymchwiliad, roedd penderfyniad y dylai un swyddog wynebu gwrandawiad am gamweinyddu difrifol, a dau swyddog am gamweinyddu.

Mewn gwrandawiad, ni chafwyd ditectif sarjant yn euog o unrhyw gamweinyddiad, ac mae'r heddlu wedi penderfynu peidio dilyn achos yn erbyn dau gwnstabl.