Dros 100 o ynnau wedi'u hildio i'r heddlu mewn amnest
- Cyhoeddwyd
Mae dros 100 o ynnau wedi cael eu rhoi i luoedd heddlu yng Nghymru hyd yn hyn eleni fel rhan o ymgyrch i geisio cael pobl i ildio eu harfau.
Fe wnaeth Heddlu Gogledd Cymru dderbyn 34 o ynnau, gan gynnwys un o gyfnod Rhyfel De Affrica rhwng 1899 ac 1902 a reiffl o'r Rhyfel Byd Cyntaf.
Roedd Heddlu Dyfed-Powys wedi derbyn 55 o arfau, tra bo'r cyhoedd wedi ildio 30 i Heddlu Gwent.
Dydy Heddlu De Cymru ddim wedi datgelu faint o ynnau maen nhw wedi'u derbyn fel rhan o'r ymgyrch.
'Cannoedd' o fwledi
"Diolch byth bod yr arfau yma bellach ddim mewn perygl o fynd i'r dwylo anghywir," meddai'r Uwcharolygydd Jon Cummins - pennaeth ymgyrchoedd arbenigol Heddlu Dyfed-Powys.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gwent bod "cannoedd" o fwledi o wahanol fath wedi cael eu rhoi i'r llu hefyd fel rhan o'r ymgyrch.
Mewn amnest tebyg yn 2017 fe wnaeth Heddlu Dyfed-Powys dderbyn 189 o arfau, tra bo'r cyhoedd wedi rhoi 121 o ynnau i Heddlu Gogledd Cymru.
Y flwyddyn honno cafodd Heddlu Gwent 41 o "arfau marwol", 22 o ynnau arall a phedwar tegan.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Tachwedd 2017
- Cyhoeddwyd10 Tachwedd 2014