Llai o wrthfiotigau'n cynyddu eu heffeithiolrwydd

  • Cyhoeddwyd
CyffuriauFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Betsi Cadwaladr wedi gweld gostyngiad o 12.6% yn nifer y presgripsiynau maen nhw'n ei roi am wrthfiotigau

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn dweud bod gostwng nifer y gwrthfiotigau maen nhw'n eu hargymell i bobl wedi eu helpu i achub bywydau.

Mae bwrdd iechyd gogledd Cymru wedi gweld gostyngiad o 12.6% yn nifer y presgripsiynau maen nhw'n ei roi am wrthfiotigau.

Yn ôl penaethiaid mae hyn wedi arwain at ostyngiad yn nifer yr achosion o "superbugs" - straeniau o facteria sy'n gallu goroesi mwyafrif y gwrthfiotigau cyffredin.

Mae ysgrifennydd iechyd y DU wedi dweud bod bacteria o'r fath yr un mor berygl â newid hinsawdd.

Arbed £185,000

Mae pryder bod gorddefnydd o wrthfiotigau wedi arwain at gynnydd yn nifer y bacteria sydd â gwytnwch yn eu herbyn, sydd wedi lleihau effeithiolrwydd rhai cyffuriau.

Dywedodd Betsi Cadwaladr bod eu gostyngiad - sydd dros ddwbl y targed o 5% yng Nghymru - wedi arbed £185,000 dros y flwyddyn ddiwethaf.

Mae wedi llwyddo i wneud hynny drwy dargedu meddygfeydd a fferyllfeydd, sy'n dosbarthu dros 80% o'r presgripsiynau yn y gogledd.

Petri dish with bacteriaFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y gobaith yw lleihau nifer y bacteria sydd â gwytnwch yn erbyn gwrthfiotigau

"Rydyn ni wedi gweithio'n galed i weithio gyda meddygfeydd i'w helpu i leihau ein cyfraddau," meddai Pauline Roberts, fferyllydd gofal sylfaenol gyda'r bwrdd iechyd.

"Mae pawb yn deall bod gennym ni broblem yn genedlaethol gyda'r gorddefnydd o wrthfiotigau, ond mae'n anodd newid heb yr arfau i wella'r ffordd ry'n ni'n gweithredu.

"Rydyn ni wedi ceisio gweithio gyda meddygfeydd i roi adnoddau iddyn nhw er mwyn cefnogi'r gwaith yma, a'u cefnogi trwy addysgu cleifion nad yw gwrthfiotigau'n gweithio yn erbyn firysau."

Gwaith 'ardderchog'

Mae Betsi Cadwaladr hefyd wedi bod yn cynnal cynllun peilot, ynghyd â Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg, ble mae fferyllwyr yn profi pobl sydd â dolur gwddw.

Os yw'r haint yn un firol, dydyn nhw ddim yn rhoi gwrthfiotigau i'r claf, am na fyddai'n trin dolur gwddw firol.

Fe wnaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru ganmol byrddau iechyd am wneud yn "ardderchog" wrth leihau'r defnydd o wrthfiotigau.