Gobeithio ehangu cynllun i drin dolur gwddf ledled Cymru
- Cyhoeddwyd

Mae fferyllfeydd sy'n rhan o'r cynllun peilot yn cynnal prawf i drin dolur gwddf
Mae'n bosib bydd cynllun peilot i drin dolur gwddf mewn fferyllfeydd yn ehangu'r flwyddyn nesaf.
Yn ôl ystadegau sydd wedi dod i law Newyddion 9, mae'r arbrawf wedi bod yn llwyddiannus iawn ym myrddau iechyd Cwm Taf a Betsi Cadwaladr.
Bwriad y cynllun peilot oedd lleddfu'r pwysau ar feddygon teulu a lleihau'r defnydd o wrthfiotigau, gan weithio i gyrraedd targed Llywodraeth Cymru.
Doedd dim angen gwrthfiotigau ar 75% o'r sampl o 400 a gymerodd y prawf yn y fferyllfa yn ystod y cyfnod o dri mis.
Yn ogystal, dywedodd dros 90% ohonyn nhw y byddan nhw wedi mynd at feddyg teulu pe na bai'r prawf ar gael.

Yn ôl y fferyllydd Adrian Fraser Jones, byddai'n "wych" gweld y cynllun yn ehangu
Mae Adrian Fraser Jones, fferyllydd yn Nhreorci, yn un o ryw 70 o fferyllwyr sy'n rhan o'r rhan o'r cynllun peilot.
"Mae 'na tua 70 fferyllfa dros Gymru'n cael ei wneud ar y funud. Os mae'n bosib bydd hwn yn mynd i fwy o fferyllfeydd sy'n dilyn, byddai hynny'n beth gwych."
Mae'r prawf yn cynnwys casglu sampl o'r geg er mwyn cael ei brofi yn y fan a'r lle, ac nid oes angen gweld y meddyg teulu o gwbl, hyd yn oed petai angen triniaeth.
"Os mae'r canlyniad yn dod allan yn gadarnhaol, mae'n bosib i fi rhagnodi gwrthfiotig," esbonia Mr Jones.
Mae cynllun tebyg ar gael gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr hefyd.
Doedd dim angen gwrthfiotigau ar 86% o'r rhai gymerodd y prawf yn y fan honno, gyda 90% ohonyn nhw hefyd yn dweud y byddan nhw wedi mynd at y meddyg teulu os nad oedd modd cael prawf mewn fferyllfa.
Ar ôl llwyddiant y cynllun yng Nghwm Taf, mae'r bwrdd yn ystyried ei ehangu'r flwyddyn nesaf.

Yn ôl Dr Eleri Davies, arbenigwraig ym maes gwrthfiotigau, mae canlyniadau'r peilot wedi bod yn "addawol iawn"
Un sy'n croesawu'r penderfyniad yna ydy Dr Eleri Davies o Iechyd Cyhoeddus Cymru, sy'n arbenigwraig ym maes gwrthfiotigau.
"Dwi'n meddwl bod angen gwneud lot fwy o waith fel hyn er mwyn gwella'r diagnostig," meddai.
"Mae e hefyd yn helpu gyda'r neges i bobl bod dim wastad angen gwrthfiotigau."
Ychwanegodd Dr Davies bod angen edrych ymhellach ar ganlyniadau'r peilot "cyn gwneud mwy o hyn ar draws Cymru" ond eu bod eisoes yn edrych yn "addawol iawn".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd20 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd6 Ionawr 2017