Carcharu dyn wedi ymosodiad ar blismon yn Synod Inn
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi'i garcharu am ddwy flynedd a naw mis am ymosod ar blismon yn Synod Inn.
Roedd Wayne Dobson, 30 oed o Sussex eisoes wedi pledio'n euog i'r cyhuddiadau yn ei erbyn.
Roedd y cyhuddiadau yn cynnwys achosi niwed corfforol, difrod troseddol, cymryd cerbyd a'i ddifrodi a dau gyhuddiad o gymryd cerbydau heb ganiatâd.
Roedd Dobson wedi'i gyhuddo ynghyd â Darryl Matthew Dempsey, 24 hefyd o Sussex, ond roedd dau seiciatrydd o'r farn nad oedd Mr Dempsey mewn cyflwr i sefyll ei brawf, felly roedd gofyn i'r rheithgor ddyfarnu yn ei absenoldeb.
Gwn Taser
Clywodd y llys bod y Cwnstabl Dafydd Edwards o Heddlu Dyfed-Powys wedi parcio mewn cilfan yn Ffostrasol ar 9 Chwefror pan welodd Land Rover glas yr oedd yr heddlu yn chwilio amdano yn yr ardal.
Pan stopiodd y car aeth yr heddwas i siarad gyda'r ddau ddyn yn y cerbyd.
Dywedodd Jim Davis ar ran yr erlyniad bod Mr Dempsey wedi hyrddio ato, llwyddo i gael gafael ar y gwn Taser a'i saethu yn ei frest, cyn i Dobson sathru ar ei bengliniau a'i gefn.
Ar ôl methu â dwyn car y cwnstabl, fe wnaethon nhw gymryd tractor o fferm gyfagos "gan daro trwy unrhyw giatiau oedd o'u blaenau", cyn cymryd Range Rover ac yna Volvo a ffoi i Aberteifi cyn gwahanu.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Awst 2019
- Cyhoeddwyd19 Awst 2019
- Cyhoeddwyd16 Chwefror 2019