Arestio ail ddyn wedi ymosodiad ar blismon yn Synod Inn

  • Cyhoeddwyd
Cerbyd heddlu yn Synod Inn
Disgrifiad o’r llun,

Cerbyd Heddlu Dyfed-Powys yn Synod Inn wedi'r digwyddiad ddydd Sadwrn, 9 Chwefror

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cadarnhau bod dyn yr oedden nhw wedi bod yn chwilio amdano mewn cysylltiad ag ymosodiad ar blismon yng Ngheredigion wythnos yn ôl wedi cael ei arestio yn Sussex.

Cafodd y dyn 24 oed ei arestio yn hwyr nos Wener.

Mae'r plismon a gafodd ei anafu yn y digwyddiad yn Synod Inn ar ôl stopio'r car roedd y dyn yn teithio ynddo yn dal heb ddychwelyd i'r gwaith, ond mae'r llu'n dweud ei fod yn gwella'n raddol.

Mae ail ddyn a gafodd ei arestio yn dilyn y digwyddiad ddydd Sadwrn diwethaf wedi ymddangos mewn llys a'i gadw yn y ddalfa.

Mae Wayne Dobson, 29, wedi ei gyhuddo o achosi niwed corfforol difrifol, difrod troseddol, difrodi cerbyd a mynd â cherbyd heb ganiatâd y perchennog.

Dywedodd y Prif Uwcharolygydd Peter Roderick eu bod yn falch i gadarnhau bod yr ail ddyn wedi cael arestio "yn dilyn ymgyrch hir a dwys i'w ganfod" gan wahanol adrannau o fewn Heddlu Dyfed-Powys a heddluoedd eraill.

Cafodd heddlu arfog eu danfon i'r ardal wedi'r ymosodiad ar y plismon, ac roedd yna rybudd i'r cyhoedd fod yn wyliadwrus.

Bu'n rhaid i'r heddwas gael triniaeth yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin at gleisiau a mân anafiadau.