Dynes wedi marw ar ôl digwyddiad maes pebyll Caernarfon

  • Cyhoeddwyd
Anna Roselyn Evans

Mae dynes o ardal Aberystwyth wedi marw o'i hanafiadau wedi iddi gael ei tharo gan gar ar faes gwersylla ger Caernarfon yr wythnos ddiwethaf.

Bu farw Anna Roselyn Evans, 46, yn yr ysbyty yn Stoke ychydig dros wythnos wedi'r digwyddiad yn oriau mân y bore ar 19 Awst.

Cafodd tri pherson arall - dynes a dau ddyn - hefyd eu hanafu yn y digwyddiad ym maes pebyll Rhyd y Galen ar gyrion Bethel, ac mae'r tri bellach wedi cael eu rhyddhau o'r ysbyty.

Mae dyn 26 oed o Fanceinion wedi pledio'n euog i achosi niwed corfforol difrifol trwy yrru'n beryglus mewn cysylltiad â'r digwyddiad.

Cafodd Jake Waterhouse ei gadw yn y ddalfa ar ôl ymddangos o flaen ynadon yn Llandudno ddydd Mercher diwethaf.

Mae dyn arall gafodd ei arestio yn dilyn y digwyddiad wedi cael ei ryddhau dan ymchwiliad.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Jake Waterhouse wedi pledio'n euog i achosi niwed corfforol difrifol trwy yrru'n beryglus

Dywedodd mab Ms Evans, Richard ar Facebook: "Heno bu'n rhaid i mi ddweud hwyl fawr i'r fenyw fwyaf anhygoel i mi 'nabod erioed.

"Hi oedd fy mam, fy ffrind gorau, fy nghraig, ac rydw i'n mynd i'w cholli hi cymaint.

"Rwy'n dy garu di mam. Gobeithio dy fod yn breuddwydio am noson llawn sêr."

Ymchwiliad yn parhau

Dywedodd Prifysgol Aberystwyth bod Ms Evans yn "aelod gwerthfawr o dîm Canolfan y Celfyddydau ac yn aelod annwyl o gymuned artistig Aberystwyth".

"Rydym wedi ein tristáu'n fawr gan y newyddion am ei marwolaeth annhymig ac estynnwn ein cydymdeimlad dwysaf â'i theulu ar yr adeg anodd hon."

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Andy Gibson o Heddlu Gogledd Cymru: "Rydym yn meddwl am deulu a ffrindiau Mrs Evans ar yr amser trist a gofidus hyn.

"Mae'r ymchwiliad i'r digwyddiad trasig yma'n parhau ac rydym yn gweithio'n agos gyda Gwasanaeth Erlyn y Goron."