Dau wyneb newydd yn nhîm Cymru i herio Iwerddon

  • Cyhoeddwyd
Josh NavidiFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Josh Navidi wedi cael ei ddewis i fod yn gapten ar Gymru am y tro cyntaf

Mae disgwyl i ddau chwaraewr ennill eu capiau cyntaf i Gymru ddydd Sadwrn wrth i Warren Gatland wneud newidiadau mawr ar gyfer y gêm gyfeillgar yn erbyn Iwerddon.

Mae asgellwr y Gleision, Owen Lane a prop y Scarlets, Rhys Carré ymysg 14 o newidiadau i'r tîm a drechodd Lloegr ar 17 Awst.

Bydd y chwaraewr rheng ôl Josh Navidi hefyd yn gapten ar ei wlad am y tro cyntaf yn absenoldeb Alun Wyn Jones.

Dyma fydd y cyfle olaf i chwaraewyr greu argraff ar Gatland cyn bod y prif hyfforddwr yn enwi'r garfan ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd yn Japan ddydd Sul.

Navidi sydd wedi ei ddewis yn safle'r wythwr gyda James Davies ac Aaron Shingler yn flaenasgellwyr.

Davies yw'r unig un i gadw'i le yn y tîm wedi'r fuddugoliaeth yn erbyn Lloegr - a hynny wedi iddo orfod gadael y cae yn yr hanner cyntaf oherwydd anaf.

Dyma fydd y tro cyntaf i Shingler ddechrau gêm i Gymru ers 18 mis.

Adam Beard fydd partner Bradley Davies yn yr ail reng, gyda Carré, Ryan Elias a Samson Lee yn dechrau yn y rheng flaen.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cymru bellach ar frig rhestr detholion y byd wedi'r fuddugoliaeth o 13-6 yn erbyn Lloegr

Hallam Amos sy'n dechrau yn safle'r cefnwr yn lle Leigh Halfpenny, gyda Lane a Steff Evans fel asgellwyr.

Mae Aled Davies wedi ei ddewis yn safle'r mewnwr gyda maswr y Gleision, Jarrod Evans, wrth ei ochr.

Canolwyr y Gweilch, Scott Williams ac Owen Watkins sydd wedi eu dewis yng nghanol y cae.

Bydd y gic gyntaf yn Stadiwm Principality am 14:30.

Tîm Cymru

Hallam Amos; Owen Lane, Scott Williams, Owen Watkin, Steff Evans; Jarrod Evans, Aled Davies; Rhys Carré, Ryan Elias, Samson Lee; Adam Beard, Bradley Davies, Aaron Shingler, James Davies, Josh Navidi (C).

Eilyddion: Elliot Dee, Rob Evans, Leon Brown, Jake Ball, Ross Moriarty, Tomos Williams, Rhys Patchell, Jonah Holmes.

Tîm Iwerddon

Will Addison; Andrew Conway, Chris Farrell, Bundee Aki, Jacob Stockdale; Jack Carty, Kieran Marmion; David Kilcoyne, Niall Scannell, John Ryan, Iain Henderson, James Ryan; Tadhg Beirne, Peter O'Mahony (C), Jack Conan.

Eilyddion: Rory Best, Andrew Porter, Tadhg Furlong, Devin Toner, Jordi Murphy, Jack McGrath, Garry Ringrose, Dave Kearney.