Galwadau iechyd meddwl yn costio £1.2m i'r heddlu

  • Cyhoeddwyd
Mark Collins
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mark Collins yn dweud na ddylai'r heddlu fod yn gyfrifol am alwadau "llai difrifol" yn ymwneud ag iechyd meddwl

Mae cymorth arbenigol ar gyfer galwadau yn ymwneud ag iechyd meddwl yn costio £1.2m y flwyddyn ar gyfartaledd i heddluoedd Cymru, meddai un Prif Gwnstabl.

Mae Mark Collins o Heddlu Dyfed-Powys hefyd yn arwain ar faterion iechyd meddwl a phlismona ar gyfer Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu.

Dylai'r heddlu wastad ymateb i alwadau argyfwng, meddai, ond mae'n credu na ddylai'r lluoedd fod yn gyfrifol am alwadau "llai difrifol".

Yn ôl Llywodraeth Cymru maent yn gwario fwy ar wasanaethau iechyd meddwl nag unrhyw ran arall o'r Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol (GIG).

Mae'r pedwar llu yng Nghymru yn defnyddio staff arbenigol sydd wedi eu hyfforddi i ddelio gyda materion iechyd meddwl yn eu canolfannau galwadau.

£1.2m- swm llawer yn fwy

Maent hefyd yn cael eu defnyddio mewn timau sydd yn ymateb i ddigwyddiadau yn ymwneud ag iechyd meddwl.

Dywed Mr Collins mai £1.2m yw'r swm sydd yn cael ei wario ar y gwasanaethau arbenigol penodol yma- ond bod y gost mewn gwirionedd llawer yn fwy am fod swyddogion yn dod i gysylltiad gyda phobl sydd ag iechyd meddwl yn eu gwaith o ddydd i ddydd.

"Bob tro rydyn ni yn delio gyda materion iechyd meddwl, dyw ein swyddogion ni ddim yn plismona materion eraill," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Nid heddweision yw'r bobl oriau i ddelio gydag argyfwng iechyd meddwl, meddai Lowri Smith

Ym mis Ionawr dywedodd Prif Gwnstabl Heddlu'r De, Matt Jukes, bod yr heddlu yn aml yn "llanw'r bwlch" er nad nhw yw'r gwasanaeth mwyaf priodol i gefnogi rhywun yn ystod argyfwng iechyd meddwl.

Cafodd yr heddlu eu galw bum gwaith i gartref Lowri Smith o Gaerdydd yn y tair blynedd ddiwethaf pan wnaeth hi ffonio gwasanaeth iechyd meddwl tu allan i oriau'r GIG.

Er bod swyddogion yn gwneud eu gorau i'w helpu nid nhw yw'r bobol briodol i'w chefnogi, meddai.

"Dwi'n gallu gwneud y sefyllfa yn waeth. Yn aml pan dwi'n teimlo fy mod i yn wynebu argyfwng dwi'n cau lawr. Wnâi ddim siarad gyda nhw.

Y cymorth cywir

"Dwi'n mynd yn dawel iawn achos pan mae'r heddlu yn dod i'ch tŷ chi, mae'n gallu cael ei weld fel rhywbeth reit fygythiol."

Ar un achlysur fe ddaeth nyrs iechyd meddwl i'w gweld gyda'r heddweision .

"Roedd siarad gyda rhywun yn y maes yn help…mae siarad gyda rhywun wyneb yn wyneb llawer mwy buddiol," meddai.

Dywedodd llefarydd o Fwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro bod ganddynt gynlluniau gofal i gleifion sydd "wedi eu teilwra i anghenion yr unigolyn os ydynt o dan ofal ein timau argyfwng ar gyfer yr adegau tu allan i oriau arferol."

Cydweithio'n gweithio

Gweithio gydag elusen iechyd meddwl Hafal mae Helen Bennett erbyn hyn ond roedd hi'n nyrs iechyd meddwl.

Mae wedi bod yn ymwneud gyda threial lle mae dau nyrs iechyd meddwl yn gweithio yn ystafell rheoli Heddlu'r De.

"Fe fyddan nhw'n gwneud asesiad dros y ffôn ac yn cynghori heddweision…Maen nhw hefyd mewn cysylltiad gyda'r timau argyfwng, y timau iechyd meddwl sydd yn gweithio yn y gymuned, elusennau, awdurdodau lleol…er mwyn gwneud yn siŵr fod y canlyniad i'r unigolyn yn un lle mae yna broses o gydweithio wedi digwydd gyda'r holl gyrff.

"Mae'r dystiolaeth (o gynlluniau tebyg) ar draws Lloegr…yn dangos ei fod yn llwyddiannus iawn. Dyw'r heddlu ddim wedi gorfod ymyrryd cymaint."

Yr heddlu, byrddau iechyd lleol, cynghorau a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru sydd wedi bod ynghlwm â'r cynllun.

"Mae'n ymwneud gydag edrych ar y peth o safbwynt sawl asiantaeth a dyna pam mae wedi bod yn bwysig bod pawb wedi bod yn rhan o'r drafodaeth. Dyw hyn ddim yn gyfrifoldeb i un corff yn fwy na'i gilydd."

Cydnabod bod yna heriau yn wynebu'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru wrth ddelio gydag anghenion cleifion iechyd meddwl mae Mark Collins ac mae'n dweud bod angen mwy o arian ar GIG.

Blaenoriaethu nawdd

Eleni fe gyhoeddodd Llywodraeth San Steffan y byddai £2.3 biliwn o arian ychwanegol ar gael fel rhan o gynllun 10 mlynedd ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl o fewn y GIG yn Lloegr.

"Rydyn ni angen y math yna o nawdd yng Nghymru ar gyfer ein gwasanaethau ar y rheng flaen," meddai Mr Collins.

Ond mae Llywodraeth Cymru yn dweud ei bod yn gwario mwy ar wasanaethau iechyd meddwl nag unrhyw wasanaeth arall o fewn y GIG.

Ychwanegodd y llefarydd ei bod wedi cynyddu'r arian ar gyfer 2019/20 i £679m gan gynnwys buddsoddiad ychwanegol mewn meysydd arbennig fel gwasanaethau iechyd meddwl i blant.